Eryl Crump - 4 Awst 2024

Bydd Gorsedd Cymru yn ymgynnull ddwywaith ar y Maes yn ystod y dydd. Am 10:00 bydd y gyntaf o ddwy seremoni urddo aelodau newydd i'r Orsedd

Gobeithio y bydd y tywydd yn sych er mwyn i bawb allu gweld y seremonïau lliwgar hyn yn eu holl ogoniant.

Yna yn y prynhawn fe fydd seremoni'r Coroni yn y Pafiliwn. Testun y gystadleuaeth yw ‘Atgof’ a rhaid oedd i'r beirdd gyflwyno pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 llinell.

Y Goron yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod ac mae'n rhodd eleni gan Ysgol Garth Olwg sydd hefyd yn cyflwyno'r wobr ariannol.

Mae pwysigrwydd addysg Gymraeg wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ardal yr Eisteddfod ac ym Mhontypridd yr agorwyd yr Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf yn y de yn 1962. 

Gwnaethpwyd y Goron hardd mewn arian gan Gwmni Neil Rayment yn eu gweithdy ym Mae Caerdydd.

Cofiwch fod prif seremonïau'r dydd yn dechrau am 16:00 yr wythnos hon.

‘Atgof’ oedd teitl y gerdd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl ganrif yn ôl. Ond roedd buddugoliaeth Edward Prosser Rhys yn ddadleuol o'r cychwyn a wynebodd y bardd storm o sarhad am y darluniau o ryw, chwant a rhamant hoyw yn ei bryddest ar adeg pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon. 

Yn y Babell Lên am 13:30 bydd trafodaeth am yr ymateb i bryddest ddadleuol Prosser yn pwyso a mesur cyfraniad 'Atgof' i’r canon cwiyr Cymraeg.

I rai roedd hi’n bryddest bechadurus gan 'ffrîc' ond i eraill yn torri tir newydd; Lois Gwenllian Jones fydd yn cadeirio'r sgwrs rhwng Arwel Gruffydd, Cathryn Charnell-White, Kayley Roberts a Gareth Evans-Jones.

Yn ddiweddarach, am 19:30 yn y Muni, bydd 'Bwystfilod Aflan' yn ymdrin â’r ymatebion hyn o safbwynt newydd. Dyma gynhyrchiad newydd gan Music Theatre Wales mewn partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.

Cyfansoddwyd gan Conor Mitchell, gyda pherfformiadau gan Elgan Llŷr Thomas ac Eddie Ladd, a’r cyfarwyddwr yw Jac Ifan Moore.

Os am rywbeth gwahanol ymunwch â Siôn Tomos Owen a Rhys Mwyn am sgwrs am hanes a thirwedd bro’r Eisteddfod yna taith gerdded o amgylch y maes.

Bydd y daith gerdded, sydd dan ofal Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, yn cychwyn am 10:30 yn y Babell Lên ac yn mynd i Stondin Cant a Mil ble bydd cyfle i brynu cyfrolau Siôn a Rhys wedi eu llofnodi.

Un o'r cystadlaethau mwya’ poblogaidd bob blwyddyn yn y Pafiliwn yw'r un i gorau i'r rhai sy'n 60 oed a throsodd heb fod yn llai na 20 mewn nifer. 

Gofynnir am raglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymro neu Gymraes. 

Côr Hen Nodiant, Caerdydd, gipiodd Gwpan OR Owen (Owen Gele) y llynedd ond pwy aiff â hi eleni? Mae'r cystadlu yn dechrau am 11:45 yn y Pafiliwn.

Ceir cyflwyniad ar y delyn gan Annest Mair Davies, enillydd Ysgoloriaeth Nansi Richards 2024, yn Encore am 12:00.

Yr un pryd yr Emporiwm bydd ABC Opra yn cynnal Academi Benwan y Cyfansoddwr. Gweithdy anturus rhyngweithiol yw hwn yn llawn straeon a cherddoriaeth lle cewch deithio 'nôl i 1597 i wlad y pizza a'r pasta a chwrdd â chymeriadau Academi Benwan y Cyfansoddwr. 

Yn eu plith mae'r Athro Peri, Lully Anlwcus, Tortellini Rossini, Windy Wolfie a llu o arwyr eraill yn ogystal ag ambell arwr Cymreig.

Sioe fawr yr Eisteddfod hon yw'r opera roc Nia Ben Aur sydd wedi ei gweddnewid o'r perfformiad gwreiddiol hanner canrif yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin.

Bydd Geraint Cynan yn arwain trafodaeth am y sioe arloesol honno ym mis Awst 1974 wrth hel atgofion yng nghwmni rhai o aelodau'r cast gwreiddiol gan gynnwys Cleif Harpwood, Heather Jones, Geraint Davies a Sioned Mair.Ewch draw i'r Tipi i glywed y sgwrs am 14:30 neu yn Encore am 16:45.

Ac i gloi'r diwrnod bydd cyfle i gyd-ddathlu pen-blwydd mawr un o grwpiau gwerin gorau Cymru! Eleni mae Mynediad am Ddim yn dathlu hanner can mlynedd o ganu a chreu hwyl ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt. Byddant ar Lwyfan y Maes o 21:00.