Cydweithrediad syfrdanol rhwng dwy sy’n pontio Cymru ac Iwerddon fydd un o uchafbwyntiau'r Tŷ Gwerin eleni
Aoife Ní Bhriain, un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon a feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol, a'r delynores Catrin Finch sydd wedi creu gyrfa glasurol drawiadol a mentro i dir newydd drwy gydweithio ag artistiaid rhyngwladol.
Mae’r ddwy dalent gerddorol aruthrol yn creu deialog gerddorol swynol lle mae elfennau traddodiadol a chyfoes yn dod at ei gilydd mewn dathliad o gydweithrediad cerddorol.
Fe fyddan nhw’n tywys y gynulleidfa ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad enedigol.
Cyrhaeddodd eu halbwm cyntaf 'Double You' rif 1 yn Siartiau Clasurol iTunes a Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop a chael ei enwebu am wobr yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin Radio RTÉ. Bydd y ddwy'n perfformio yn Tŷ Gwerin am 21:30.
Cyflwynir Medal Syr TH Parry-Williams er anrhydedd i Penri Roberts a Linda Gittins, dau o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn sydd wedi gweithio’n wirfoddol ers sawl blwyddyn i feithrin a hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Bydd y seremoni yn dechrau am 12:30.
Prif seremoni'r prynhawn yn y Pafiliwn yw cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen. Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 gair sydd ei hangen i ennill y wobr anrhydeddus hon a'r beirniaid eleni yw Catrin Beard, Jerry Hunter a Marlyn Samuel. A fydd enillydd eleni? Ymunwch â ni yn y Pafiliwn am 16:00 i weld.
Ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn un o sylwebwyr y dyfodol? Gyda diolch i gwmni teledu Rondo am y clipiau, gallwch roi cynnig ar siarad am rai o goliau pwysicaf tîm pêl-droed Cymru mewn gweithdy gyda Chynghrair Sgrin Cymru yn y Sinemaes am 12:00.
O Aberdâr i'r London Palladium, bydd y diddanwr bytholwyrdd Johnny Tudor yn cael ei holi gan Ieuan Rhys am ei fywyd a'i yrfa.
O'i enedigaeth yng Ngwm Cynon, ei fagwraeth ym Maesteg i’w ddyddiau’n diddanu ar lwyfan y Palladium gyda Dorothy Squires, cawn wybod sut aeth Johnny ati i ddysgu Cymraeg wedyn ar ôl cwrdd â'i wraig, yr actores Olwen Rees. Sgwrs, cân a dawns - ffordd hamddenol o dreulio'r hwyr brynhawn yn y Tipi am 17:30.
Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Mae’r bardd Prosser Rhys newydd ennill y Goron am ei gerdd sy’n sôn am ei berthynas rywiol hefo dyn arall! Sgandal!
Hyd yn oed wrth ei Goroni roedd yr Archdderwydd yn lladd ar ffordd o fyw fudr, “ddi-Gymraeg”, y bardd.
Ni chafodd y gerdd erioed ei hailargraffu. “Sioe gerdd cwiar Gymraeg llawn gwychder” gan Seiriol Davies sy'n ail-fyw'r seremoni Goroni dyngedfennol honno 100 mlynedd yn ôl yw ‘Corn Gwlad’ ond "efo ‘chydig bach o ddychymyg, ysbrydion arswydus, cynfasau gwely ciwt iawn, gemwaith, gliter a fferets!" meddai'r awdur.
Cymerwch eich sedd yn y Babell Lên am 19:30 ac ar ganiad y corn, byddwch yn fendiged! Anaddas i blant.
I lawer, mae Nos Galan yn noson i'w mwynhau, dathlu gyda ffrindiau a theulu ac edrych ymlaen at y flwyddyn gyffrous sydd i ddod.
Ond i Eileen, mae'n gyfnod o fyfyrio ac edrych yn ôl ar yr achlysuron sydd wedi siapio ei bywyd - poen a galar colli ei hunig ferch Lind, ei hantur yn Disney World a'r berthynas gariadus annisgwyl gydag Americanwr ifanc a golygus oedd yn chwarae rhan Mickey Mouse!
Bydd addasiad Cymraeg gan Ieuan Rhys o ddrama deimladwy Frank Vickery ‘Cysgu 'da Mickey’ yn eich ysbrydoli, yn gwneud i chi chwerthin ac yn codi'r galon yn YMa am 14:00.
Opera fer un-ddynes gyda'r gantores amryddawn Rhian Lois wedi ei chyfansoddi gan Caryl Parry Jones yw Lydia, Merch y Cwilt. Comisiwn newydd gan yr Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi ei ysbrydoli gan y cwiltiau yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Bydd y cyflwyniad yn dechrau yn Encore am 20:00.