Eryl Crump - 6 Awst 2024

Mae'n ddydd Mercher a thros hanner ffordd drwy'r Eisteddfod

I ble’r aeth yr amser! Ond mae na gymaint o bethau ar ôl i'w gweld a'u mwynhau. Dyma rai o bigion y dydd i roi syniad am le i fynd a beth i'w wylio.

Y Fedal Ryddiaith yw'r brif wobr sy’n cael ei chyflwyno heddiw. Gwahoddwyd llenorion i gyflwyno cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau. Y testun oedd ‘Newid’.

Y wobr i'r llenor buddugol yw'r Fedal Ryddiaith sy'n rhoddedig eleni gan ‘Clochdar’, papur bro Cwm Cynon, er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Rhodd Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina yw'r wobr ariannol o £750.

Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan yw'r beirniaid eleni a gobeithio eu bod wedi cael eu plesio. Bydd y seremoni liwgar yn dechrau yn y Pafiliwn am 16:00.

Yr Archdderwydd yw Llywydd Gorsedd Cymru ac ers ei sefydlu, dim ond dwy ferch sydd wedi dal y teitl: Christine James (2013 - 2016) a Mererid Hopwood ers mis Ebrill eleni. Dyma gyfle i glywed mwy am swydd yr Archdderwydd gyda Christine a Mererid mewn sgwrs gyda Betsan Powys. Bydd y sgwrs yn y Tipi am 11:00.

Cawn wybod heddiw pwy yw Dysgwr y Flwyddyn yn y Pafiliwn am 14:10. Ond cyn hynny ceir cyfle i ddod i adnabod y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghwmni Elwyn Hughes. Byddant ym mhabell Llywodraeth Cymru am hanner dydd.

Bydd sgwrs a chân yng nghwmni Rhian Davies a Jess Robinson yn Encore am 13:00. Bydd y ddwy yn trafod bywyd a gwaith y gyfansoddwraig o Drefforest, Morfydd Llwyn Owen.

A nos yfory am 21:15 bydd digwyddiad arbennig yn y Bandstand pan fydd pedwar cerddor ifanc – Cerys Hafana, Glesni Rhys Jones, Llinos Haf Jones a Talulah, bob un ohonynt dan 27 oed – yn talu teyrnged i’r eicon gerddorol o Drefforest a fu farw ychydig cyn ei phen-blwydd yn 27.

Cwmni theatr Taking Flight | Pontio fydd yn cyflwyno ‘Mae Gen ti Ddreigiau’ yn yr Emporiwm am 14:00. Addasiad Manon Steffan Ros o stori gan Kathryn Cave a Nick Maland yw’r sioe ac mae'n chwedl hyfryd am daith plentyn tuag at ddygymod â’i ddreigiau. 

Mae’n sioe i bob cenhedlaeth, yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; a chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na ti!”

Gyda'r tymor pêl-droed newydd ar fin dechrau mae'n flwyddyn brysur i dimau’r bêl gron. Bydd Wrecsam yn chwarae mewn cynghrair uwch ar ôl ennill yr ail ddyrchafiad mewn dau dymor a Chymru’n gobeithio ennill lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd. 

Ac wrth gwrs bydd Dinas Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn paratoi ar gyfer y tymor newydd. Os ydych yn gwrando ar bodlediad ‘Sgorio’ ewch draw i'r Sinemaes am 14:00 i fod yn y gynulleidfa wrth i Rondo recordio’r rhifyn diweddaraf.

Yn y Lle Celf am 15:00 bydd Siôn Tomos Owen yn hel atgofion a thrafod arlunydd, athro a rebel Cwm Rhondda, Elwyn Thomas. Ganed Elwyn Thomas yn Tylorstown yng Nghwm Rhondda yn 1932, a symudodd yn ddiweddarach i Drealaw.

Yn 1953 daeth yn athro celf, gan ddechrau yn Ysgol Rochester yng Nghaint cyn symud gartref chwe blynedd yn ddiweddarach pan ddaeth yn bennaeth celf yn Ysgol Ramadeg Ferndale ac yno yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1987.

Dim ond ar ôl iddo ymddeol o ddysgu llawn amser y dechreuodd beintio mewn gwirionedd. Mae ei waith yn portreadu bywyd cymoedd y Rhondda gan ddefnyddio lliwiau prudd. Gweithiodd yn bennaf trwy gyfrwng acrylig, ond hefyd mewn dyfrliwiau a chyfryngau cymysg.

Am 15:30 bydd disgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Garth Olwg yn cynnig gwledd o adloniant a dathliad o lwyddiant addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf yn Encore. 

Mae'n rhan o gyfres o gyflwyniadau gan yr ysgol ac ysgolion Llanhari, Rhydywaun a Chwm Rhondda yn eu tro. Gwerth mynd draw am dri chwarter awr o ddiddanwch pur.