Mae Clwb y Bont ym Mhontypridd wedi bod yn ganolbwynt digwyddiadau Cymraeg yn y dref am flynyddoedd lawer
Wedi ei guddio i lawr lôn fach wrth ochr Boots ar Stryd Taf gallwch gael cip ar Afon Taf wrth nesáu tuag ato a choed tal parc Ynysangharad ar y lan gyferbyn.
Roedd yr adeilad ar un adeg yn fragdy, yn warws ac yn ofaint ond ers 40 mlynedd bu'n glwb cymdeithasol.
Fe'i agorwyd ym mis Medi 1983 gan Dafydd Iwan, ac yn fuan sefydlodd enw da fel canolbwynt ar gyfer digwyddiadau diwylliannol amrywiol, yn ogystal â lle cyfeillgar a hamddenol i gymdeithasu.
Dewch i ddathlu pen-blwydd Clwb y Bont yn 40 oed yng nghwmni cyfeillion a charedigion y clwb yn Encore am 13:00.
Alun 'Sbardun' Huws oedd un o sylfaenwyr y grŵp arloesol, Y Tebot Piws ac awdur rhai o'r caneuon mwyaf cofiadwy a berfformiwyd yn y Gymraeg. Bu'n aelod o fandiau adnabyddus eraill megis Mynediad am Ddim ac Ac Eraill, a gyd-ysgrifennodd yr opera roc Gymraeg gyntaf, Nia Ben Aur, yn 1974.
Wedi ei farwolaeth ym mis Rhagfyr 2014 yn 66 oed sefydlodd ei weddw, Gwenno, wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy am y gân werin wreiddiol orau. Mae'r gystadleuaeth eleni yn y Tŷ Gwerin am 15:45.
Perfformiad awyr agored crwydrol unigryw gan bum perfformiwr sy'n herio'r drefn mewn ffordd chwareus yw ‘Gwir!’ gan Ramshackliscious a Hijinx.
Mae'r gwrthryfel yn cyrraedd - llawn gobaith, yn ffyrnig gomig ac ar dân i darfu ar y norm cyhoeddus. Mae'r gynulleidfa'n ymuno â'r gemau gan archwilio pŵer a rheolaeth. Bydd ‘Gwir!’ ar y Maes am 13:00.
Elgan Llŷr Thomas, cyn-enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, fydd un o feirniaid y gystadleuaeth hon i unawdwyr 19 ac o dan 25 oed. Gŵr y gantores enwog Leila Megane oedd Thomas Osborne Roberts.
Fe'i ganwyd ger Croesoswallt ond symudodd ei deulu i Ysbyty Ifan yn 1890 i gadw siop. Graddiodd ym Mangor fel tirfesurydd ond dechreuodd astudio cerddoriaeth a dysgu piano tra roedd yn gweithio ar stad Castell y Waun.
Daeth yn gyfeilydd i Leila Megane a phriododd y cwpl yn Efrog Newydd tra roeddynt ar daith yn yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd y wobr goffa gan ei wraig wedi ei farwolaeth yn 1948. Mae'r gystadleuaeth yn dechrau am 11:15 yn y Pafiliwn.
Mae 2024 yn dynodi 100 mlynedd ers marw'r cyfansoddwr Ffrengig, Gabriel Fauré. Yn ystod ei flynyddoedd olaf, fe ddaeth yn ymwelydd cyson â Chastell Llandochau a bu'n treulio hafau yno yng nghwmni perchennog y Castell, Henry Ebsworth a'i ferch, Elsie Swinton.
I ddathlu'r cysylltiad arbennig yma, ac i gydnabod canrif union ers ei farw, bydd wyth o gyn-enillwyr prif gystadlaethau lleisiol yr Eisteddfod yn cyflwyno'r 'Requiem' (cyfieithiad Stephen J Williams) dan arweiniad Nia Llewelyn Jones gyda chyfeiliant gan bumawd llinynnol Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn y Muni am 19:30.
Wedi i'r haul fachlud ar y Bandstand ym Mharc Ynysangharad bydd cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal yng ngolau cannwyll. Ganwyd Morfydd Llwyn Owen yn 1891 yn Nhrefforest, Pontypridd. Yn gerddor amryddawn, roedd ganddi ddawn arbennig fel cyfansoddwr mewn sawl arddull cerddorol.
Er iddi farw dair wythnos cyn ei phen-blwydd yn 27 mlwydd oed, gadawodd 250 o weithiau cerddorol, sy’n parhau i gael dylanwad ar gerddoriaeth Gymreig heddiw.
Yn y cyngerdd bydd pedwar cerddor ifanc – Cerys Hafana, Glesni Rhys Jones, Llinos Haf Jones a Talulah, bob un ohonynt dan 27 oed – yn talu teyrnged i’r eicon cerddorol lleol yma. Mae'r curadu yng ngofal Gwenno Morgan ac mae'r cyngerdd yn dechrau am 21:15.