Gobeithio y bydd yr haul yn gwenu ar y Maes y bore 'ma fel bod modd i'r Orsedd ymgynnull o amgylch y meini i anrhydeddu aelodau newydd
Mae'n seremoni liwgar a thwymgalon ac yn denu cynulleidfa fawr o ffrindiau a theuluoedd y rhai sy'n cael eu derbyn.
Yn dilyn y seremoni, sy'n dechrau am 10:00, bydd gorymdaith o'r meini drwy'r Maes.
Bydd yr Orsedd yn ailymgynnull am 16:00 - cofiwch fod y seremonïau mawr yn gynt eleni - er mwyn i'r Archdderwydd Mererid arwain seremoni'r Gadair.
Cyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol a hyd at 250 llinell ar y testun ‘Cadwyn’ oedd tasg y beirdd.
Y wobr yw'r Gadair hardd a grëwyd gan Berian Daniel. Mae'n rhoddedig gan ddisgyblion a chymuned Ysgol Llanhari ar achlysur dathlu cyfraniad yr ysgol i 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.
Llynedd Alan Llwyd, un o’n prifeirdd a lwyddodd i ennill y ‘dwbl’, sef y Gadair a’r Goron yr un flwyddyn – a hynny ddwy waith – oedd enillydd y Gadair. Tybed pwy aiff â'r gadair hon adref?
Fel arfer bydd diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn gyda'r unawdwyr mezzo-soprano, bas/bariton, soprano a thenor dros 25 oed yn ymgiprys am y wobr gyntaf a'r hawl i gystadlu am Wobr Goffa David Ellis, cystadleuaeth y Rhuban Glas brynhawn Sadwrn.
Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 25 oed a throsodd i ganu eto yn y rownd derfynol.
Yng Nghaffi Maes B bydd sesiwn o gomedi am 14:00. Heddiw bydd Cadi Dafydd, Gwion Clarke a Beth Jones yn codi gwên gyda Siôn Owen yn cadw trefn.
Bydd sioe gomedi arall brynhawn Sadwrn gyda Fflur Pierce, Aled Richards a Josh Pennar.
Barddoniaeth draddodiadol Morgannwg yn cael ei chanu ar alawon lleol fydd testun sesiwn arbennig yn y Tŷ Gwerin am 16:30.
Bydd y sesiwn unigryw hon gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn dathlu elfen bwysig a difyr o’n hetifeddiaeth gyfoethog yn yr ardal hon, sef y triban.
Tybir y bu'r triban yn un o fesurau'r Glêr – beirdd gwerin llawr gwlad - yn yr Oesoedd Canol.
Pennill o bedair llinell yw'r triban, gyda saith sillaf yn y llinell gyntaf, yr ail a'r bedwaredd, ac wyth yn y drydedd. Mae rheolau hefyd ynglŷn â pha linellau sy’n diweddu’n acennog a diacen ac ym mhle mae’r odl.
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen sy’n cyflwyno 'Gwlad! Gwlad!', cynhyrchiad newydd yn y dref lle cyfansoddwyd yr anthem genedlaethol gan y tad a'r mab, Evan a James James yn 1856. Mae'n archwilio etifeddiaeth ein hanthem genedlaethol drwy adrodd cyfres o straeon pwerus sy'n ysgogi'r meddwl.
Ysgrifennwyd y cynhyrchiad gan yr awdur arobryn Chris Harris, a'r cyfarwyddwr yw Harvey Evans.
Mae'n cynnwys Lansiad, menter hyfforddi'r ymddiriedolaeth ar gyfer oedolion 18 i 25 oed sy'n dyheu am yrfa broffesiynol yn y celfyddydau perfformio.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Stacey Blythe, a’r cynhyrchydd yw Pedro Lloyd Gardiner. Perfformir 'Gwlad! Gwlad!' yn Yma am 18:00.
Cadwch olwg ar y Maes am theatr stryd gan No Fit State Circus tua hanner dydd. Bambŵ yw teitl eu sioe sy’n cynnwys bwndeli o fambŵ, cerddoriaeth fyw, comedi a champau sy'n dangos nerth ac ystwythder rhyfeddol gan artistiaid syrcas. Bydd y sioe yn cael ei hailadrodd am 15:00.
Bydd Kitsch n Sync hefyd yn cyflwyno eu sioe, Syncro Studio, ar y Maes am 17:00 a 18:00.