Ac yn llawer rhy fuan rydym wedi cyrraedd diwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Ond mae'n ddiwrnod llawn arall ar y Maes gydag uchafbwynt arbennig yn goron ar y cyfan.
Fe fydd Siân Phillips, un o actorion mwyaf adnabyddus Cymru, yn cael ei holi gan Steffan Donnelly, cyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru am ei bywyd a'i gyrfa ym myd perfformio a'r gair llafar.
Daeth yr actores i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwethaf ym Maldwyn naw mlynedd yn ôl, gan ei bod yn cael ei ffilmio ar gyfer y rhaglen hel achau 'Coming Home'.
Llefarodd y gerdd 'Baled y Pedwar Brenin' gan Cynan, sef y darn a lefarodd pan enillodd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog yn 1945. Bydd y sgwrs yn digwydd yn y Babell Lên am 11:00.
Bydd pabell Encore yn cynnig cyfle i longyfarch enillwyr cystadlaethau cyfansoddi adran gerddoriaeth yr Eisteddfod heddiw. Bydd perfformiadau byw o rai o'r cyfansoddiadau buddugol a chyfle i ddysgu beth wnaeth sbarduno’r cyfansoddwyr i gystadlu. Dewch draw i glywed dawn y cyfansoddwyr am hanner dydd.
Cyhoeddwyd albwm cyntaf y gantores Heather Jones, ‘Mae'r Olwyn yn Troi’, 50 mlynedd yn ôl ac fe fydd yr achlysur yn cael ei ddathlu yn y Tŷ Gwerin.
Bydd cyfle i glywed perfformiadau o ganeuon yr albwm ac ambell stori ac atgof gan Heather o’i gyrfa hir a llwyddiannus yng nghwmni Dafydd Iwan, Sioned Mair, Siân Jones, Casi Wyn a Mari Mathias.
I nodi'r garreg filltir mae Sain yn ail-ryddhau fersiwn feinyl o’r albwm yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod. Mae'r sesiwn yn dechrau am 13:30.
Bydd prif seremoni'r dydd, Tlws y Cyfansoddwr yn digwydd yn y Pafiliwn am 18:30.
Bydd y digrifwyr Priya Hall a Leila Navabi yn sgwrsio am eu gyrfaoedd yn y diwydiant comedi, ysgrifennu stand-yp a chomedi ar radio a theledu.
Cafodd y ddwy lwyddiant mawr gyda'u sioeau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin llynedd a bu Priya ar daith gyda'i sioe ‘Grandmother's Daughter’.
Mae Priya hefyd wedi ymddangos ar amryw o raglenni teledu ac mae ei chredydau ysgrifennu'n cynnwys cyfraniadau i gomedi sefyllfa BBC Three ‘Bad Education’. Ewch draw i Paned o Gê am 13:00 i glywed ganddynt.
Ceir darlith gan Gerallt Pennant, aelod blaengar o Glwb Mynydda Cymru, am ei ymgyrch dros 30 mlynedd yn dringo'r Munros - y 282 copa sydd dros 3,000 troedfedd.
Daw Gerallt o Eifionydd ond bu'n dysgu yn Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Cwm Rhondda cyn symud i weithio i'r cyfryngau. Bellach mae'n wyneb cyfarwydd ar raglenni fel ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’ ac mae ei raglen wythnosol, ‘Galwad Cynnar’, ar Radio Cymru wedi ysbrydoli cenedlaethau o wrandawyr. Cyflwynir y ddarlith yn Cymdeithasau 2 am 10:30.
Drwy gydol yr Eisteddfod mae campwaith Evan a James James, sef awdur a chyfansoddwr ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ein hanthem genedlaethol, wedi ei ddathlu mewn prosiect uchelgeisiol.
Disgrifiwyd y prosiect fel "jig-so mawr", gyda mân-ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos. Recordiwyd lleisiau lleol a'u plethu gyda cherddoriaeth yr anthem i greu amgylchedd sŵn arbennig fydd i'w glywed yn y coed ar y Maes gan arwain at ddiweddglo mawr ar lwyfan y Pafiliwn.
Comisiynwyd beirdd lleol i gydweithio ar waith cerddorol newydd gan Eilir Owen Griffiths gyda chyfuniad o gerddorion Sinffonia Cymru a Cherddorfa Ieuenctid Cymru ac ensemble o gantorion o genres cerddorol amrywiol a bydd i'w glywed am 19:30.
Pa well ffordd i gloi wythnos arbennig yma yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf?