Erthygl noddwr | Sponsor feature - 30 Gorff 2024

Mae’n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen gefnogi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 – a hynny fel y mae wedi gwneud ers blynyddoedd lawer

Eleni, rhoddwyd cefnogaeth ariannol i’r Oedfa fore Sul yn y Pafiliwn ac i babell Encore a’r holl ddigwyddiadau cyffrous a difyr sy’n digwydd yno yn ystod yr wythnos.

Elusen Gymreig yw Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, a sefydlwyd yn 1998, yn ddilyniant i ddwy ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan Syr David James ddeugain mlynedd ynghynt. 

Creu gwaddol parhaol er budd pobl Cymru oedd dymuniad Syr David, ac mae’n dda gallu cyhoeddi fod y buddsoddiad hwnnw’n parhau i ddyfarnu grantiau i gefnogi pobl Cymru. 

Dosberthir tua £500,000 o grantiau yn flynyddol, a hynny i gefnogi myfyrwyr uwchraddedig Cymru, capeli ac eglwysi Cymru gyda’u hadeiladau ac i brynu offer ac adnoddau, a thua 75 o eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, a gellir gweld yr adroddiadau a dderbynnir gan amrywiol rai sydd wedi derbyn grant ar hyd y blynyddoedd ar ein gwefan.

Gwych yw gweld fod buddsoddiad a gweledigaeth y gŵr o Bontrhydfendigaid yn parhau i wneud gwahaniaeth i unigolion a sefydliadau yng Nghymru benbaladr.

Darlith flynyddol

Virginia Gamba, darlithydd blynyddol Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

Mae’r Ymddiriedolaeth, ar y cyd â Chanolfan Morlan Aberystwyth, yn trefnu Darlith Flynyddol, ac eleni, gwahoddwyd yr Athro Virginia Gamba o’r Cenhedloedd Unedig i draddodi. 

Roedd yn bersonoliaeth a darlithydd gwefreiddiol, a’i hanes yn delio â llywodraethau a grwpiau gwrthryfelgar nifer fawr o wledydd y byd yn mynd i aros yn y cof am hir iawn. 

Mae ei darlith hi a nifer o rai eraill y blynyddoedd diwethaf i’w gweld ar wefan yr Ymddiriedolaeth.

Cyfrol DJ James: Ei Fywyd a’i Ddylanwad

Ychydig flynyddoedd yn ôl, comisiynwyd Richard Morgan, fu’n ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth am dros ddeng mlynedd ar hugain, i fynd ati i gyhoeddi cyfrol yn rhoi hanes Syr David a Phantyfedwen. 

Ceir hanes y gŵr arbennig yma, oedd a’i wreiddiau’n ddwfn yng Ngheredigion, yn mynd ati i greu cyfoeth drwy’r busnes llaeth a grawn a thrwy agor sinemâu yn Llundain, ac yna’n penderfynu defnyddio’r cyfoeth hwn i gefnogi dinasyddion ac amryw o sefydliadau Cymru, gwaddol sy’n dal i gael ei gweithredu yn ôl ei ddymuniadau ef. 

Mae’r gyfrol ar werth am £18, a gellir archebu copïau o swyddfa’r Ymddiriedolaeth - 01970 612806 neu post@jamespantyfedwen.cymru

Cartref yr Ymddiriedolaeth

Swyddfa Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Aberystwyth

Ers i Syr David James benderfynu symud pencadlys yr Ymddiriedolaeth o Lundain i Gymru, mae’r swyddfeydd wedi’u lleoli yn Stryd y Farchnad, Aberystwyth. 

Bellach mae’r ystafelloedd yn cael eu llogi i nifer o sefydliadau a mudiadau, ar gyfer pwyllgorau bach neu gyfarfodydd mwy. 

Os oes diddordeb mewn llogi ystafell ar gyfer cyfarfod, eto cysylltwch â’r Swyddfa ym Mhantyfedwen -  01970 612806.

 

Cefnogwyr Encore a'r Oedfa 2024:

Logo Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen