Mae gwaith anferthol newydd gof ac artist metel wedi ei ddyfarnu'n enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Bydd Angharad Pearce Jones yn derbyn y Fedal a'r wobr ariannol mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd ar ddiwrnod agoriadol yr Ŵyl.
Dywedodd Angharad, sy'n byw gyda'i theulu ym Mrynaman, ei bod wrth ei bodd yn ennill y wobr ym Mhontypridd.
"Rwyf wedi ymwneud a'r Eisteddfod Genedlaethol ers chwarter canrif. Dwi wedi arddangos yn y Lle Celf sawl gwaith, wedi bod yn ddetholwr a chadeirydd ac wedi cael y fraint o greu'r Goron ond erioed wedi ennill.
"Ac mae dod i'r brig yn Rhondda Cynon Taf yn fwy arbennig gan fod mam yn dod o Bontypridd ac ar ôl Parc Ynysangharad cefais fy enwi. Bûm yn dod i'r dref i weld Nain a Taid ac yn ymweld â'r parc," meddai.
Mae dau ddarn o waith Angharad yn Y Lle Celf ac fe fydd yn sicr yn gosod ymwelwyr ar naill ochr i’r ffens neu’r llall, trwy gyflwyno dewis syml - mynd i mewn i’r oriel trwy’r drws chwith neu dde.
Datblygwyd y gwaith mewn ymateb i ganfyddiad Angharad fod rhaniadau mewn cymdeithas wedi cynyddu yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016.
Adeiladwyd y darn yn wreiddiol yn ei chartref yn ystod y cyfnod clo gan hollti trwy fwrdd y gegin a’r ystafell fwyta gyda ffens palisâd. Daeth pandemig Covid-19 ag ystyr newydd i’r darn, ond dywed Angharad ei fod yn awgrymu unrhyw raniad neu ffin, ac yn codi cymaint o gwestiynau am natur ac effaith dewisiadau personol a gwleidyddol.
"Credaf mai pwrpas celf yw dechrau trafodaeth ac rwy’n sicr bydd y darn hwn, 'Pa ochr o'r ffens wyt ti', yn gwneud hynny," meddai.
Yr ail ddarn yw Pinc. Rhan o ffens sydd wedi ei blygu i adlewyrchu'r bwlch cudd y byddai pobl ifanc yn ei ddefnyddio i gael mynediad, heb dalu, i ganolfan chwaraeon yn ardal Abertawe.
Dywedodd Ffion Rhys, un o'r tri detholwr ar gyfer y gystadleuaeth eleni, am waith Angharad, "Ar yr wyneb mae'n ymddangos yn syml ac yn hawdd cael mynediad iddo - mae'n eich hudo i mewn gyda chrefft, medrusrwydd, 'setiau' sydd wedi'u creu i chi gael ymgolli a chwarae eich rhan ynddynt, a chymysgedd annisgwyl o ddeunyddiau.
"Fy mhrofiad i o'i gwaith yw bod pobl bob amser yn sefyll o'i flaen ac yn siarad - a hynny am y pynciau cymhleth y mae hi'n eu cyflwyno, fel gwleidyddiaeth, diwylliant poblogaidd, mamolaeth, ffeministiaeth, chwant, systemau grym a hunaniaeth y Cymry."
Yn wreiddiol o’r Bala graddiodd Angharad gyda gradd BA (Anrh) mewn Dylunio a Chrefft ym Mhrifysgol Brighton yn 1991 a chwblhau MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Caerdydd. Mae’n cefnogi ei hymarfer gan gweithio fel gof masnachol.
Yn ei gyrfa gynnar roedd gwahaniaeth clir rhwng ei gwaith celf a gwaith masnachol ond dros y blynyddoedd maent wedi dod yn gyd-ddibynnol.
"Rwy'n sylwi ar y potensial cerfluniol ym mhopeth sydd wedi'i wneud o ddur - o ffensys amaethyddol, gatiau tro stadiwm chwaraeon, pramiau, a pholion sgaffald, i'r llwch sy'n cuddio ar fy nhorrwr disg," meddai.
Roedd ei gosodiad mawr cyntaf yn cynnwys polion sgaffaldau wedi eu lapio mewn papur wal, yn hongian fel llenni o nenfwd oriel yng Nghaerdydd. Ei bwriad oedd tynnu sylw at gyflwr diwydiant trwm Cymreig, neuaddau glowyr a rôl newidiol y gweithwyr.
Ar gyfer arddangosfa yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd dechreuodd ei hymchwiliad i’r berthynas rhwng 'pin-ups' bron-noeth a diwydiant trwm, a derbyniodd Wobr gan Cyngor Celfyddydau Cymru i gynhyrchu “Pa Ferch? Dewiswch chi..." Dangoswyd y darn yn ddiweddarach yn Eisteddfod Genedlaethol 2005 ym Mangor.
Yn 2009 Angharad oedd prif ddylunydd arddangosfa Cymru yng Ngŵyl y Smithsonian yn Washington DC ac yn 2012, wedi’i chythruddo gymaint gan iddi fethu cael tocynnau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain, mynegodd ei rhwystredigaeth mewn gosodiad rhyngweithiol o ffensys, gatiau tro a drysau gyda dim ond un ffordd drwodd.
Yn 2019 cafodd Angharad ei chynnwys yn nhaith fasnach Llywodraeth Cynulliad Cymru i Siapan i gyd-fynd â Gemau Olympaidd Tokyo 2020. Fodd bynnag fe wnaeth pandemig Covid-19 eu hatal rhag teithio.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd yn rhedeg o Awst 3-10. Mwy o fanylion ar-lein ar eisteddfod.cymru