Gwehyddes greodd gwaith sy'n dathlu harddwch edafedd yw ei ffurf buraf sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Bydd Laura Thomas o Ewenni ger Penybont-ar-Ogwr yn derbyn y fedal mewn seremoni arbennig ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod ym Mhontypridd.
Mae Laura Thomas yn artist tecstilau gwehyddu sefydledig, dylunydd a gwneuthurwr sy'n arbenigo mewn cynhyrchu tecstilau anghonfensiynol ar gyfer gofodau cyfoes.
Cyflwynodd chwe darn o waith i'r detholwyr eu hystyried ar gyfer y gystadleuaeth a byddant yn cael eu harddangos yn Y Lle Celf yn ystod yr Eisteddfod.
Wrth ddisgrifio ei gwaith dywedodd: "Mae fy ngwaith yn dathlu harddwch edafedd yw ei ffurf buraf; ei hanfod a'r trosiadau y mae'n eu crynhoi.
"Beth bynnag yw ei gymeriad cynhenid, fe'i dygir i'r amlwg ac mae'n hysbysu sut y caiff ei ddefnyddio i greu'r gwaith gwehyddu canlyniadol, boed yn ei lewyrch metelaidd trwm neu ei anhyblygrwydd sych neu ei hyblygrwydd llyfn.
"Crëwyd y gweithiau celf â llaw yn reddfol a'u bwriad yw cyflwyno myfyrdod tawel, gweledol; adwaith yn erbyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod diweddar.
"Mae yma rythmau tyner, cipolwg tu hwnt i’r wyneb a gweadau atgofus i ddal ein chwilfrydedd a thirio ar feddyliau prysur."
Ychwanegodd ei bod wedi gweithio ar y darnau am rai misoedd.
"Mae fy ngwaith yn gywrain a thechnegol. Rwy'n defnyddio edafedd a phrosesau gwahanol ac mae ambell un o'r rhain yn cymryd amser i'w cwblhau. Cymerodd y darn Cascades ddeufis i'w gwblhau er enghraifft," meddai.
Dywedodd Cecile Johnson Soliz, un o ddetholwyr yr Arddangosfa Agored, "Mae tecstilau Laura Thomas yn wrthrychau syfrdanol o hardd. Mae'r 'edefyn' ei hun yn rhywbeth mor bwysig iddi hi nes ei bod hi'n fy hudo i ailfeddwl am sut rwy'n gweld y pethau symlaf.
"Mae'r amrywiaeth o ddeunyddiau, o ffibrau naturiol i synthetig, a'i gwybodaeth amdanyn nhw, yn aruthrol. Mae golau, natur ac amser wedi'u plethu i'w gweithiau, rhai ohonyn nhw'n cymryd misoedd i'w creu. Mae hi'n enillydd haeddiannol o'r Fedal Aur am Grefft a Dylunio."
Ers ei phrofiad cyntaf o wehyddu yn 1996, mae Laura wedi cael ei hamsugno'n llwyr gan ei chwmpas diddiwedd ar gyfer archwilio ac arbrofi.
Mae ganddi radd dosbarth cyntaf o Brifysgol Dinas Birmingham, MA o'r Coleg Celf Brenhinol a dwy gymrodoriaeth ymchwil yn nisgyblaeth gwehyddu.
Sefydlodd Laura ei stiwdio ym Mro Morgannwg yn 2004 ac mae wedi gweithio ar ystod hynod amrywiol o brosiectau yn cwmpasu celf gyhoeddus, dylunio tecstilau masnachol, curadu, preswyliadau artistiaid a chreu gwaith i’w arddangos.
Mae gan Laura waith yng nghasgliad parhaol yn yr Amgueddfa Wlân Cymru yn Llandysul, Amgueddfa'r Victoria & Albert yn Llundain ac mewn nifer o gasgliadau preifat.
Dyfarnwyd un o Wobrau Llysgennad Cymru Greadigol cyntaf i Laura gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ogystal, mae Laura wedi bod yn ddarlithydd BA Tecstilau rhan amser yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ers 2004 ac mae ganddi brofiad helaeth yn cyflwyno gweithdai mewn ysgolion, grwpiau cymunedol ac orielau.
Bydd gwaith Laura Thomas i'w weld yn Y Lle Celf. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o Awst 3-10. Am fwy o fanylion ewch i eisteddfod.cymru.