Elena Grace, enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024
3 Awst 2024

Mae trosi bloc stablau celf a chrefft yn gartref i deulu aml-genhedlaeth estynedig wedi ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Bu'r penseiri Claire Priest a Ben Crawley o Studio Brassica yn gweithio ar y prosiect ym Mhlas Hendy ger Rhaglan, Sir Fynwy am ddwy flynedd.

Effeithiodd pandemic Covid-19 ar y prosiect gyda phrinder deunyddiau a bu rhaid aros i wyau ffesant ddodwyd wrth yml y safle ddeor cyn parhau a'r gwaith.

Dywedodd y ddau gyn-fyfyriwr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rhan o Brifysgol Caerdydd, eu bod wrth eu bodd yn ennill y wobr hon, y diweddaraf i'w ychwanegu at eu casgliad o wobrwyon sy'n deillio o'r prosiect. Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni, sefydlwyd yn Llundain yn 2019, gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Rydym wedi ein syfrdanu braidd, nid yw'n rhywbeth yr oeddem yn ei ddisgwyl o gwbl ac rydym yn gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at weld ein gwaith yn yr arddangosfa yn yr Eisteddfod," meddai Claire.

Dyfernir y fedal gan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru.

Nod y wobr yw tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anhrydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safonau dylunio uchaf. 

Rhoddir y wobr i'r pensaer neu benseiri sydd yn gyfrifol am adeiliad neu grŵp o adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru yn y tair blynedd blaenorol.

Roedd y prosiect yn cynnwys adnewyddu ac ymestyn bloc stablau rhestredig Gradd II. Wedi'i adeiladu ym 1906 gan Charles a Molly Crawley, perthyn i Ben, roedd yr adeilad gwreiddiol yn cynnwys ystafell offer, llofft wair a cherbyty. 

Mae'n parhau i fod yn gartref i geffylau ond roedd rhannau eraill o’r adeilad wedi colli eu pwrpas gwreiddiol dros amser ac roedd angen gwaith atgyweirio sylweddol arnynt.

Dywedodd Ben: "Fel grŵp teuluol aml-genhedlaeth estynedig roedd angen am fwy o lety wedi ysgogi'r gwaith o adnewyddu'r bloc stablau. 

"Roedd y briff hefyd yn gofyn am hyblygrwydd i'r grwpiau teulu a fyddai'n aros ac yn cyfnewid am gyfnodau hir o amser."

Wedi’i hysbrydoli gan ffabrig Celf a Chrefft yr adeilad defnyddiwyd deunyddiau syml gan wneud i’r hen deimlo’n gyfforddus iawn gyda’r newydd. 

Nid oedd y gwaith heb ei drafferthion na'i phroblemau i'w datrys meddai Claire.

"Un cwestiwn oedd sut i ddelio â swm sylweddol o wydr yn yr adeilad. Yr ateb oedd sgrin preifatrwydd a dyfais cysgodi'r haul. 

"Buom yn gweithio gyda gweithwyr metel lleol i gynhyrchu'r lwfrau sy'n agor ac yn cau gan ddefnyddio mecanwaith gêr syml. 

"Mae'r system yn cael ei rheoli â llaw gan ddefnyddio olwyn drol gawsom hyd iddi yn Abertawe," meddai.

Gwobr yr Eisteddfod Genedlaethol yw gwobr ddiweddaraf y prosiect. Dyfarnwyd pedwar gwobr i Studio Brassica gan Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) eleni gan gynnwys Prosiect Bychan y Flwyddyn a gwobr Pensaer Prosiect i Claire.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd o Awst 3-10. Mwy o fanylion ar-lein ar eisteddfod.cymru.