Helen
3 Awst 2024

Bydd chwech o hoelion wyth ardal Rhondda Cynon Taf yn cael eu hanrhydeddu gan dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

Maent yn bobl adnabyddus yn yr ardal, ac wedi eu gwahodd am eu "cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol".

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, ei bod wedi'u gwahodd "oherwydd eu cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol."

"Heb y bobl yma, byddai'r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant," meddai.

Ymhlith y chwech mae Eirlys Britton oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gyfun Rhydfelen a dychwelodd yn ddiweddarach  i ardal Pontypridd fel athrawes yn Ysgol Heol y Celyn. Yno bu'n dysgu i blant adrodd a dawnsio gan brofi llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn eisteddfodau'r Urdd. 

Wrth wneud hyn roedd hefyd yn aelod blaenllaw o Aelwyd yr Urdd, Caerdydd ac fe gafodd cynnig rhan Beth Leyshon yn Pobol y Cwm a bu'n actio yn y gyfres ddrama am dros 15 mlynedd. 

Yn 1981 ffurfiodd Dawnswyr Nantgarw a Nantgarw Bach ddatblygodd gydag amser i fod yn Adran Bro Taf ac maent wedi ennill llu o wobrau'n genedlaethol a rhyngwladol. Fe'i hanrhydeddwyd gyda medal Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012. 

Ers symud i ardal Pontypridd dros hanner canrif yn ôl o Drefor yng Ngwynedd ymroddodd Wil Morus Jones i fod yn llysgennad dros yr iaith ym mhob modd yn ei ardal fabwysiedig. 

Dechreuodd ddysgu Cymraeg i oedolion Pontypridd a'r Cylch a bu'n gwneud hynny am ddegawdau.

Un o'i brif lwyddiannau cerddorol oedd sefydlu Côr Godre'r Garth hanner can mlynedd yn ôl. Ar eu hymgais cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin daethant enillwyd y gystadleuaeth côr cymysg. 

Bu'n arwain cymanfaoedd a bydd arwain y Gymanfa yn y Pafiliwn eleni yn fraint fawr iddo.

Wedi ymddeol cafodd ei ysbrydoli i sefydlu BaglaCymru ar ôl gweld llawdriniaeth ar blant oedd yn dioddef o hollt y wefus a'r daflod yn Bangladesh. Erbyn hyn mae wedi llwyddo i godi digon o arian i roi dros 1,500 o lawdriniaethau i rai sy'n dioddef o'r cyflwr. 

Yn enedigol o Gwmaman, ar wahân i ryw 12 mlynedd yn byw yn Abertawe a Phontardawe, mae Susan Jenkins wedi treulio ei hoes yng Nghwm Cynon. 

Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Abertawe a bu'n ffodus gallu defnyddio ei hiaith newydd ar hyd ei gyrfa, fel cyfieithydd cyntaf Prifysgol Abertawe, golygydd ac yna cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, ac mewn sawl swydd olygyddol gyda CBAC. 

Mae'n olygydd Clochdar, papur bro Cwm Cynon er 2009, yn ysgrifennydd presennol Bwrdd Rheoli Menter Iaith RhCT ac ers dwy flynedd mae hi'n un o diwtoriaid gwirfoddol Clwb Dysgwyr Hirwaun. 

Ganwyd Geraint Davies yn Nhreherbert ac roedd ei fywyd cynnar yn troi o gwmpas y Capel lle'r oedd ei dad yn Ysgrifennydd, a Chôr Meibion Treorci lle'r oedd yn Arweinydd.

Ar ôl graddio mewn fferylliaeth dychwelodd i Gymru ac agor fferyllfa yn Nhreherbert lle bu'n gwasanaethu ei gymuned am 43 mlynedd.

Siom refferendwm datganoli '79 sbardunodd ei weithgarwch gwleidyddol ac yn 1983 etholwyd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref y Rhondda. Cymerodd ran mewn nifer o ymgyrchoedd ac aeth ymlaen i sefyll yn etholiad y Cynulliad. Enillodd ac ef oedd aelod cyntaf y Rhondda yn y Cynulliad.

Bu'n llywodraethwr Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac mae'n dal yn llywodraethwr Ysgol Gymraeg Ynyswen. Mae'n aelod o Gôr Godre Garth am dros ugain mlynedd ac yn Ysgrifennydd Capel Blaen-y-cwm lle mae'n parhau i wasanaethu ei gymuned. 

Menna Thomas ym Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn ardal Pontypridd mae ei chartref ers dros 30 mlynedd bellach. Drwy gydol ei gyrfa fel athrawes yn Ysgol Gyfun Rhydfelen (Garth Olwg yn ddiweddarach), cafodd lawer o foddhad fel un o'r criw a hyfforddai ddisgyblion ar gyfer cyngherddau ac eisteddfodau. 

Bu'n cystadlu'n gyson mewn Eisteddfodau Cenedlaethol gan ennill rhai o brif wobrau'r adrannau Alawon Gwerin a Cherdd Dant. Dros y blynyddoedd bu'n aelod o dimau Talwrn Y Garth a'r Dwrlyn. Arweiniodd gôr Merched y Garth o 1989 -1999 ac er 1995 mae'n arwain Parti'r Efail, grŵp hwyliog o ddynion sydd, hyd yn hyn, wedi cystadlu mewn 26 Eisteddfod Genedlaethol a 26 Gŵyl Cerdd Dant.

Mae'n diwtor ar Gwrs Gosod blynyddol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ac yn weithgar gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Yn aelod balch o gôr merched Tônteg, mae hefyd yn mwynhau canu yng nghôr yr Eisteddfod eleni.

Ganwyd Martyn Geraint yn Sir Benfro ond symudodd ei dad, Herbie, oedd yn yrrwr trenau, a'r teulu i Bontypridd ym 1965. Yn Ysgol Pont Siôn Norton ac yn yr Ysgol Sul dechreuodd Martyn berfformio ond yn Ysgol Rhydfelen datblygodd y perfformio i gynulleidfaoedd Cenedlaethol.

Wedi hyfforddiant i fod yn athro, a phedair blynedd fel actor yn cynnwys "Ffalabalam" a phennod o "Dr Who", dechreuodd Martyn berfformio sioeau byw i blant bach. Yna daeth tua 15 mlynedd ar S4C ar raglenni "Slot Meithrin", "Planed Plant" a thair blynedd fel cyflwynydd "Dechrau Canu, Dechrau Canmol".

Mae wedi cyfansoddi degau o ganeuon i blant a pherfformio miloedd o sioeau ysgol, pantomeimiau a phartïon pen-blwydd ers 1991.

Bydd y chwech yn cael eu cyflwyno yn ystod y seremoni agoriadol yn y Pafiliwn dydd Sadwrn, 3 Awst am 13:15. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i eisteddfod.cymru.