3 Awst 2024

Wrth groesawu pawb i Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd ar fore cyntaf y Brifwyl, cyhoeddodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser fod Cronfa Leol Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd bron i £332,000

Gyda chefnogaeth mewn da gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac eraill, mae’r cyfanswm wedi pasio £450,000.

Meddai Helen Prosser, “Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi cyfanswm mor anhygoel y bore ‘ma. Mae’n anodd credu ein bod ni wedi llwyddo i godi cymaint o arian mewn cwta ddeunaw mis. Mae’n anodd gwybod lle mae dechrau diolch i bawb am eu gwaith caled, eu hegni a’u brwdfrydedd.

“Mae gwirfoddolwyr o bob cornel o Rhondda, Cynon a Thaf wedi trefnu gweithgareddau yn enw’r Eisteddfod, ac rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i ffrindiau mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys Caernarfon a Chaerdydd am drefnu a chreu digwyddiadau i;’n helpu ni i gyrraedd y nod.

“Diolch i’n holl wirfoddolwyr, i drigolion lleol ac i bawb sydd wedi bod mor gefnogol drwy gydol y cyfnod.  A dim ond un peth sydd ar ôl i ni’i wneud nawr, sef annog pawb i ddod draw atom i’r parc hyfryd yma yn ystod yr wythnos a mwynhau. 

“Rydyn ni wedi bod yn aros am yr Eisteddfod yma yn y sir ers 1956 – ac rydw i mor falch i gael dweud Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf!”

Cynhelir yr Eisteddfod ar Barc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.