Paul Carson, aelod o'r côr am y nawfed tro
3 Awst 2024

Mae mwy na 300 o gantorion wedi bod yn ymarfer ers misoedd am eu rhan mewn dau gyngerdd mawreddog ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol

I lawer ohonynt bydd canu o flaen cynulleidfa o fwy na 1,500 o bobl yn brofiad hollol newydd.

Ond nid i Paul Carson sydd, yn rhyfeddol, wedi cymryd rhan yng nghôr cymunedol yr Eisteddfod Genedlaethol ddim llai na wyth gwaith o'r blaen.

Ac fe fyddai’r fferyllydd 81 oed wedi ymddeol yn dathlu ei ddegfed côr Eisteddfodol eleni pe na bai wedi dioddef ysgwydd wedi’i ddatgymalu a oedd yn ei rwystro rhag perfformio gyda chôr Eisteddfod Sir Fynwy yn Y Fenni wyth mlynedd yn ôl.

Gan gymryd hoe o'r ymarferion olaf ar gyfer y cyngerdd agoriadol eleni dywedodd Paul, sy'n byw yng Nghwmbach ger Aberdâr: "Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd yn canu. Es i'r ysgol yn Amwythig ac roedd gennym ni athro cerdd gwych. Roedd yn ffurfio corau ar adegau gyda mwy na 200 o fechgyn a buom yn canu popeth o Messiah Handel i Tippet’s Child of Time gyda’r cyfansoddwr ei hun yn y gynulleidfa.

"Pan ymwelodd yr Eisteddfod â Chastell Nedd fwy na 30 mlynedd yn ôl fe es i i'r ymarferion cyntaf ac aros. Dyw Castell-nedd ddim mor bell â hynny o Gwmbach mewn gwirionedd.

"A dyw'r Eisteddfodau eraill yn ne-ddwyrain Cymru ddim yn bell chwaith a dwi wedi mwynhau canu ynddynt i gyd. Rydym wedi canu rhai darnau bendigedig yn ystod y cyfnod hwnnw," ychwanegodd.

Mae gwraig Paul, Marie, hefyd yn aelod o gôr Rhondda Cynon Taf. "Dyma ei chweched tro eleni," meddai Paul.

Symudodd y cwpl i Gymru 35 mlynedd yn ôl ar ôl gweld tyddyn yn cael ei hysbysebu mewn papur newydd lleol.

"Fe welson ni fe a dweud pam ddim mynd amdani. Doedd gennym ni ddim plant a dim morgais ac fe gawson ni fe. Fe wnaethon ni gadw gwartheg Highland am fwy na 25 mlynedd. Maen nhw'n anifeiliaid bendigedig," meddai.

Eleni mae côr yr Eisteddfod yn cymryd rhan mewn dau gyngerdd tra gwahanol.

Heno (dydd Sadwrn) a dydd Llun byddant yn ffurfio corws yr opera roc Nia Ben Aur. Wedi’i pherfformio gyntaf 50 mlynedd yn ôl mae’r opera yn seiliedig ar chwedl Wyddelig adnabyddus Nia. Mae Nia (Niamh) yn syrthio mewn cariad ag Osian (Oisín) ac yn mynd i Tír na nÓg - gwlad ieuenctid tragwyddol - i briodi.

Maen nhw’n byw’n hapus yn Nhir na nÓg am dair blynedd ond mae Osian yn mynd yn hiraethus ac yn dymuno gadael y deyrnas hudol i ymweld â’i deulu yn Iwerddon.

Ysgrifennwyd gan Cleif Harpwood, Tecwyn Ifan, Alun 'Sbardun' Huws a Phil Edwards a chafodd dderbyniad da er bod y perfformiad yn dioddef o broblemau technegol.

Cyngerdd nos Sul yw Cymanfa Ganu lle bydd y côr yn ymuno i ganu emynau yn gynulleidfaol.

"Dydi Nia Ben Aur ddim yn fy nghwpanaid o de i mewn gwirionedd ond mae'n ddiddorol ac mae'n dda herio'ch hun. Mae'r Gymanfa Ganu yn rhywbeth arall. Gyda phawb yn sefyll ac yn canu'n galonnog mae'r gwallt ar eich gwddf yn sefyll i fyny ac rwy'n mynd yn tingly," ychwanegodd Paul.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o Awst 3-10. Am fwy o fanylion ewch i eisteddfod.cymru