3 Awst 2024

Rwy’n gwerthfawrogi’r anrhydedd annisgwyl hon gan yr Eisteddfod ac yn falch o’r fraint o gael ei derbyn yma ym Mhontypridd lle mae cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf yn cyd-gyfarfod

Dyma fan cyfansoddi ein hanthem genedlaethol,  anthem sydd yn dymuno bywyd a ffyniant i’r Gymraeg, gan orffen trwy ddeisyf – “O bydded i’r heniaith barhau”. Dyma hefyd yw dymuniad yr Eisteddfod Genedlaethol a dylem ymfalchio yn y ffaith taw dyna hefyd yw dymuniad aelodau ein Senedd. 

Yn wir, mae’r Llywodraeth wedi gosod nod inni sicrhau y bydd yma filiwn o bobl yn siarad y Gymraeg erbyn canol y ganrif.

A derbyn canlyniad y Cyfrifiad diwethaf, golyga hyn fod rhaid inni bron dyblu nifer y siaradwyr presennol. Mae hi’n dasg sylweddol, ond mae pob sialens hefyd yn gyfle, ac yn sicr, mae hwn yn gyfle i wella sefyllfa fregus yr iaith. 

Fe gofiwch inni orfod wynebu her debyg nôl yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf ar ffurf darlith Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’ a thrwy ymateb yn gadarnhaol iddi gwelwyd pob math o gynnydd yn statws y Gymraeg a’r defnydd swyddogol ohoni.

Rw i o’r farn y dylem gymryd yr her bresennol o ddifri a sicrhau bod aelodau ein Senedd ac aelodau ein cynghorau sir hefyd yn ei chymryd o ddifri ac yn llwyr ddeall y goblygiadau ymarferol.

Mae ffactorau eraill yn mynd i fod yn bwysig wrth geisio adfer iaith megis sicrhau economi iach a fydd yn darparu swyddi i’n pobl i’w galluogi i brynu tai yn eu cynefin, ond mae meithrin ffrwd gyson o siaradwyr newydd yn mynd i fod yn gwbl hanfodol. Felly, rhaid gofyn a oes galw ymhlith y di-Gymraeg i adfeddiannu’r iaith.

Rwy’n credu bod. Wrth gynnal cyrsiau yma ac yn y cymoedd cyfagos, gwelais fod lle cynnes i’r Gymraeg yng nghalonnau’r trigolion. 

Gwelsom gefnogaeth teuluoedd di-Gymraeg i addysg gyfrwng Cymraeg a’u hawydd i ymestyn a gwella’r ddarpariaeth yn y dref hon. A gyda dulliau newydd o ddysgu ieithoedd yn ymddangos, cawsom y newyddion syfrdanol bod tair miliwn o bobl wedi cofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg Duolingo y llynedd. Ac yn yr eisteddfod hon eleni mae mwy wedi cystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn nag erioed o’r blaen.

Oes, mae hen ddigon o ddiddordeb, ond a oes gennym y gallu i greu llif cyson o siaradwyr hyderus newydd?  Mae addysgwyr ar draws y byd yn gytûn taw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu ail iaith yw trwy drochi plant ynddi mor gynnar ag sy’n bosib.

Er canol y ganrif ddiwethaf llwyddwyd i wneud hyn yng Nghymru trwy ddatblygu rhwydwaith o ysgolion o addysg feithrin trwodd i’r cynradd ac ymlaen i lefelau uwchradd ac addysg uwch. Trwy ymdrechion yr athrawon, yn aml o dan amgylchiadau anodd, datblygwyd dilyniant o addysg sydd wedi ennill ymddiriedaeth rhieni gan gynnwys canran uchel o gartrefi di-Gymraeg. 

Mawr yw ein diolch a’n dyled i’n hathrawon am eu hymdrechion cyson dros yr iaith gan gynnwys y rheini sy’n llwyddo o dan amgylchiadau mwy heriol yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg ac yn tiwtora ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion.

Dyna’r newyddion da, ond rhaid inni wynebu’r ffaith blaen nad oes digon o’r adnoddau yma ar gael ar hyn o bryd i wireddu uchelgais ein llywodraeth. 

Rhaid wrth lawer mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n hygyrch, hawdd eu cyrraedd heb orfod cludo disgyblion am filltiroedd lawer ar gost fawr i’n cynghorau ac sy’n rhwystr i rieni sy’n anfodlon mentro anfon plant ifanc ar eu pennau eu hunain i ysgolion sy’n belter i ffwrdd o’u cartrefi. 

Rhaid gwella’r sefyllfa hon a rhaid dechrau nawr. Rhaid hefyd edrych ar yr ardaloedd hynny ledled Cymru sydd heb unrhyw ddarpariaeth ar hyn o bryd sy’n cynnwys rhai trefi poblog yn y sir hon fel Aberpennar a rhan ogleddol Pontypridd, a cheisio gweld a oes modd cywiro’r gwendid amlwg hwn.

Gwyddom y bydd unrhyw gynnydd yn y ddarpariaeth yn galw am fwy o athrawon cymwys a bydd sicrhau hyn yn golygu cynllunio gofalus a buddsoddiad sylweddol mewn cyrsiau hyfforddi. 

Fel un a gafodd lawer o bleser a boddhad yn y gwaith, gaf i annog ein pobl ifainc i ystyried gyrfa ym maes addysg sydd yn mynd i fod yn allweddol er sicrhau dyfodol a ffyniant i’r Gymraeg.

Ond nid rhywbwth sy’n digwydd mewn dosbarth yn unig yw caffael iaith. Paratoad yw’r dosbarth i ymuno â’r gymdeithas ac rŷn ni’n ffodus yng Nghymru bod gennym lu o gyrff sy’n cynnig gweithgareddau o bob math i ateb ein hamrywiol ddiddordebau, fel y gwelwch chi wrth grwydro maes yr eisteddfod yr wythnos hon. 

Trwy hyrwyddo digwyddiadau i ddefnyddio Cymraeg yn ymarfeol ac yn bleserus yn ein cymunedau mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ledu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae gan ein darlledwyr yn y ddwy iaith le breintiedig wrth hyrwyddo’r Gymraeg am fod ganddynt  fynediad i bob aelwyd yn y wlad. Bu ennill S4C yn fuddugoliaeth a gostiodd yn ddrud i lawer ond mae’n rhoi cyfle inni gyflwyno holl gyfoeth ein hetifeddiaeth i Gymru a thu hwnt a meithrin talentau amrywiol ein pobl. 

Mae’r sianel ar ei gorau pan fydd yn gweld y byd o’n cwmpas trwy ein llygaid ni, yn hytrach na thrwy sbectol fenthyg y bobl drws nesaf, ac yn ei dehongli o’n safbwynt ni. Ac yn sicr, yn fy mhrofiad i, dyw pobl sydd wrthi’n dysgu’r iaith o ddifrif ddim yn gwerthfawrogi talpiau o ddeialog Saesneg yng nghanol dramâu a rhaglenni Cymraeg. 

Mae gan ein darlledwyr Saesneg hefyd ran bwysig i’w chwarae trwy gyflwyno ein gwlad a’n pobl i’r byd fel y mae, yn hytrach na thrwy’r darluniau ystrydebol a welwn mor aml. Llwyddwyd i wneud hyn yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar gyda’r gyfres ‘Lost Boys and Fairies’.

I grynhoi, mae gennym waith mawr i’w wneud ond mae’r her a roddir inni gan ein llywodraeth hefyd yn gyfle ac yn rhaglen waith ar gyfer y chwarter canrif nesaf. Mae gennym y modd a’r gallu i’w gyflawni ond bydd angen llawer mwy o adnoddau materol a dynol i fynd â’r maen i’r wal.

Yr eisteddfod genedlaethol gyntaf yr es i iddi oedd Caerffili yn 1950. Rôn i’n cystadlu ar y gân werin ond ches I ddim llwyfan. Yn ôl un person, fe ges i gam, ond gan taw fy mam oedd honno, efallai ei bod, o bosib, ryw ychydig bach yn rhagfarnllyd. 

Ond yng Nghaerffili y daeth y rheol Gymraeg i rym am y tro cyntaf ac ers hynny, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst rŷn ni wedi cael cyfle i ddod ynghyd i fwynhau, dysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a chroesawu eraill i’n plith i gyfranogi o’n diwylliant. Gobeithio y cawn wythnos i’w chofio yma ym Mhontypridd a derbyn ysbrydoliaeth i fynd yn ôl i’n cynefin i wireddu’r freuddwyd sydd gennym.

Ond cyn ymadael â’r dref ewch, da chi, i fwrw golwg ar bont hardd William Edwards. Derbyniodd Edwards gomisiwn i godi pont ar draws Afon Taf. Ysgubwyd ei ymdrech gyntaf, sef pont tri bwa, i ffwrdd gan lif yr afon a chafodd ei ddau gynnig nesaf, pontydd un bwa, yr un ffawd. 

Doedd tri chynnig i Gymro ddim yn ddigon yn ei achos ef. Ond daliodd ati a dysgu gwersi pwysig o’i gamgymeriadau. Sylweddolodd fod gormod o bwysau’n gwasgu ar frig y bwa a llwyddodd i oresgyn y broblem trwy greu’r tri thwll crwn a welwch bob pen i’r bont a llwyddo yn y pen draw i godi’r bont un bwa fwyaf yn Ewrop yn ei gyfnod. 

Gobeithiaf y byddwn ni wrth ymdrechu i godi’r iaith yn ei hôl yn gallu dangos yr un ffydd a dyfalbarhad, y bydd ein harweinwyr yn dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol ac y byddwn ni yr un mor ddyfeisgar â William Edwards wrth wynebu’r  problemau fydd yn codi, fel y gall y cenedlaethau nesaf deimlo’n gwbl hyderus am ddyfodol y Gymraeg wrth ganu ‘O bydded i’r heniaith barhau.