Gwynfor Dafydd yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni. Daeth y bardd lleol o Donyrefail i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau
Noddir y Goron a’r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Garth Olwg, sydd yn parhau i feithrin Cymry Cymraeg balch yn ardal Pontypridd. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Elan Rhys Rowlands o gwmni Neil Rayment, Bae Caerdydd, gyda chefnogaeth a chymorth Neil Rayment ei hun.
Fe’i cyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Atgof’. Dewisiwyd y pwnc gan Bwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod i nodi canrif union ers i Prosser Rhys ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pwl am bryddest ar yr un pwnc, yn sôn am ei berthynas rhywiol gyda dyn arall, pan oedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon.
Y beirniaid eleni yw Guto Dafydd, Elinor Gwynn ynghyd â Tudur Dylan Jones, sy’n traddodi o’r llwyfan. Meddai, “Mae Samsa’n cyflwyno dilyniant sy’n sy’n digwydd gweddu’n berffaith i fro’r Eisteddfod eleni, am mai yn ei thir a’i daear hi y mae ei wreiddiau. Llwydda i ennyn ystod o emosiynau ynom, o dristwch gwragedd Senghennydd, i gomedi’r sylw a roddir i Guto Nyth Brân. Mae ganddo berthynas bell ac agos gyda’i ardal a chyda’i thrigolion. Mae’n teimlo’n un â’r gymdeithas, ac eto fymryn ar wahân,..
“Temtasiwn mawr yw dyfynnu’n helaeth o’r cerddi i ddangos dawn a chrefft Samsa, ond ofer fyddai hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae’r cyfanwaith a’r gwead mor dynn, byddai ynysu dyfyniadau yn llesteirio eu hystyr, ac yn ail, mae cyfle yn y gyfrol hon i’r darllenydd ddarllen y cyfan yn eu cyd-destun godidog. Mae hanes y cymoedd yn gymhleth gyfoethog, ac adleisir y cyfoeth a’r cymhlethdod yn ymateb y bardd i’r ardal a’i phobl. Nid moliant unllygeidiog sydd yma – yn hytrach, ei dweud hi fel y mae, yn ddi-flewyn-ar-dafod o onest.”
Ceir canmoliaeth gan Guto Dafydd yn ei feirniadaeth hefyd, “Dyma gasgliad ffraeth a ffyrnig, mydryddol a meistrolgar, sy’n archwilio’n gariadus-gritigol berthynas y bardd â’r cymoedd a gyflwynodd ei dad-cu iddo’n blentyn, gan bwysleisio’r cyffredinedd egr yn ogystal â’r rhamant a’r anrhydedd: ‘â’i alaw broletaraidd-browd, chwyldroi/ diflastod pentre’n lle llawn chwedlau coeth’.
“Cyfleodd anferthedd cymhlethdod ei berthynas ei hun â’i gynefin, gan ad-dalu’r ddyled oedd arno i’w dad-cu. Gwnaeth gyfraniad glew, gonest, amlweddog at lenyddiaeth y cymoedd a llenyddiaeth hoyw, ac at ymdrech barhaus y diwylliant Cymraeg i ddygymod â dad-ddiwydiannu a rhoi llais i hunaniaethau a dan-gynrychiolir. Mae’n olynydd gwiw i Ben Davies a Prosser Rhys.”
Mae Elinor Gwynn hefyd yn croesawu geiriau Samsa yn ei beirniadaeth, a dywed, “Gan Samsa cawn gerddi sy’n plethu hiwmor a dwyster, y presennol a’r gorffennol, a sylwebaeth grafog gyda myfyrdodau teimladwy am ei hunaniaeth ei hun. Mewn ffordd wreiddiol a gafaelgar mae’n cynnig cipolwg ar y profiadau, y straeon a’r mythau sy’n creu ein lleoedd ac yn siapio ein perthynas â nhw.
“Drwy gyflwyno’r darllenydd i wahanol weddau ar un ardal benodol yng Nghymru, a’i berthynas ef â’r lle, mae’r bardd wedi creu rhyw fap-dwfno gerdd sy’n adlewyrchu ei deimladau o fod y tu mewn ac ar y tu fas i’r fro lle cafodd ei fagu – ond bro lle mae ei berthynas greiddiol gyda’i dad-cu yn creu angor di-syfl.”
Ganwyd a magwyd Gwynfor yn Nhonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, ac fe aeth i ddwy o’r ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Llanhari. Yn yr ysgol uwchradd y dechreuodd Gwynfor farddoni, yn y mesur caeth i ddechrau, yn sgil ymweliad gan Mererid Hopwood â’r ysgol, lle cyflwynwyd y gynghanedd iddo am y tro cyntaf.
Aeth ati i ennill Cadair yr Urdd pan oedd yn dal i fod yn ddisgybl yn Llanhari yn 2016, ac yna am yr eildro ar ei domen ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr Taf ac Elái yn 2017. Gwynfor hefyd oedd awdur y Cywydd Croeso y flwyddyn honno.
Yn ddiweddarach, fe aeth i Brifysgol Caergrawnt i astudio llenyddiaeth Almaeneg a Sbaeneg, ac fe dreuliodd flwyddyn yn gweithio i’r Siambr Fasnach Brydeinig yn Chile. Ar ôl graddio o’r brifysgol yn ystod y cyfnod clo, fe symudodd yn ôl i Donyrefail i fyw am dair blynedd, cyn symud i Lundain, lle mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwr i’r BBC ar y News at Six a’r 10 O’Clock News.
Mae Gwynfor yn aelod o dîm Morgannwg yn yr Ymryson, a thîm Tir Iarll ar gyfres radio Y Talwrn. Mae wedi ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts ddwywaith am gerdd rydd orau’r gyfres.
Hoffai Gwynfor ddiolch i’w athrawes Gymraeg yn Llanhari, Catrin Rowlands, am ei chefnogaeth a’i chyngor dros y blynyddoedd. Pleser o’r mwyaf yw gwybod ei bod wedi’i derbyn i’r Orsedd eleni, ar ôl gwneud cymaint i sicrhau bod plant yr ardal yn cael cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg tu hwnt i furiau’r ysgol.
Hoffai hefyd gydnabod ei ddyled i’w deulu am eu cefnogaeth hwythau, ac am sicrhau bod yna bafiliwn wedi dod i Rondda Cynon Taf o gwbl.
Mae ei rieni wedi gweithio’n ddiflino dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn codi Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad – yn enwedig ei fam, Helen Prosser, sef Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni.
Mae hi’n fraint aruthrol i Gwynfor gael ennill y Goron ym mro ei febyd, a hynny am ysgrifennu casgliad o gerddi sy’n trin a thrafod hanes, hiwmor a diwylliant yr ardal.
Treftadaeth gyfoethog tref Pontypridd sydd wedi ysbrydoli cynllun Coron yr Eisteddfod eleni, gyda nodweddion trawiadol Hen Bont Pontypridd yn asio’n berffaith gyda phatrwm nodau ein hanthem genedlaethol.
Crëwyd y Goron gyda darnau bychan o arian pur wedi’u gosod fel tonnau gyda'r bwriad o blethu hanes cerddorol yr ardal i mewn i’r Goron. Bu’n rhaid i Elan Rhys Rowlands dorri dros 160 darn o arian bach i greu'r Goron gyda dau ddarn mwy yn creu'r 'bont'. Ac mae arian yn ffurfio tonnau sain yn seiliedig ar yr anthem gan greu symffoni weledol.
Drwy seilio'r dyluniad ar yr anthem genedlaethol mae'r Goron yn symboleiddio grym iaith a cherddoriaeth i uno pobl, a thrwy gyfuno hyn gyda'r Hen Bont, sy’n sefyll fel ffigwr canolog ar y Goron, mae'r dyluniad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y cysylltiad â thaith.
Nid oes angen unrhyw ddefnydd y tu mewn i'r Goron gan ei bod wedi’i dylunio i fod yn gyfforddus i’w gwisgo.
Gosodwyd teitl yr Eisteddfod ar y bont i angori'r cynllun ac mae'r Nod Cyfrin, symbol Gorsedd Cymru ers cyfnod Iolo Morganwg, yn addurno blaen y Goron gan ymgorffori’r cysylltiad hanesyddol cryf gyda thraddodiad yr Eisteddfod.
Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.