5 Awst 2024

Daeth miloedd o drigolion lleol ardal Rhondda Cynon Taf i Faes yr Eisteddfod ar Barc Ynysangharad, Pontypridd dros y penwythnos cyntaf, a bydd miloedd yn fwy am ddod cyn diwedd yr wythnos 

Mae’r cynllun tocynnau am ddim i deuluoedd cymwys, a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn sicr yn ŵyl i bawb wrth edrych i’r dyfodol.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes ym mhob elfen o’n gwaith, a heddiw rydyn ni’n cyhoeddi ein cynlluniau gwirfoddoli i annog rhagor o unigolion i weithio gyda ni ar wahanol brosiectau gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn. 

“Byddwn yn gweithio gyda grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd gwirfoddolwyr newydd ar draws cymdeithas, ac ar hyn o bryd rydyn ni wrthi’n mapio’r cyfleoedd sydd ar gael ar draws ein prosiectau a’r ŵyl ei hun, gan gynnwys ein panelau canolog.

“Mae agor yr Eisteddfod allan er mwyn sicrhau ei lle fel gŵyl i bawb yma yng Nghymru yn flaenoriaeth gennym ni ers nifer o flynyddoedd, ac wrth i ni baratoi i gyhoeddi ein strategaeth ar gyfer y cyfnod nesaf, bydd hyn yn dod yn elfen amlycach o’n gwaith.

“Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau breision er mwyn sicrhau fod ein rhaglenni artistig yn adlewyrchu cymdeithas yma yng Nghymru, ac rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid megis Tŷ Cerdd dros y blynyddoedd diwethaf ar brosiectau fel Codi Cân, er mwyn meithrin a datblygu unigolion gan gynnig cyfleoedd iddyn nhw berfformio yn yr Eisteddfod, a hynny yn aml am y tro cyntaf yn y Gymraeg.

“Rydyn ni hefyd wedi gweithio gydag artistiaid fel Eadyth dros gyfnod o flynyddoedd, yn cynnig cyfleoedd datblygu a mentora, ar brosiectau megis y rhwydwaith byd eang ar gyfer cynhyrchwyr cerddoriaeth benywaidd.

“Mae’n bwysig ein bod yn cynrychioli pawb mewn cymdeithas ym mhob elfen o’n gwaith, ac eleni rydyn ni wedi cyflwyno cystadleuaeth dorfol newydd ar gyfer corau sy’n newydd i’r Eisteddfod. 

“Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn datblygu cynllun i hyrwyddo hon gyda grwpiau a chymdeithasau o gymunedau a dangynrychiolir ar hyn o bryd.  Y gobaith yw y byddwn yn gweld corau newydd o gefndiroedd amrywiol yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ac eraill yn 2025.”

Ychwanegodd Llywydd yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir, “Rydyn ni’n credu’n gryf mewn Eisteddfod gynhwysol sy’n creu a chynnig cyfleoedd i bawb fod yn rhan o bob elfen o’n gwaith. 

“Drwy gyhoeddi y byddwn ni’n cydweithio gyda nifer o gyrff a sefydliadau i gyrraedd cymunedau a grwpiau a dangynrychiolir yn ein gwaith ar hyn o bryd, rydyn ni’n ceisio sicrhau bod elfen arall eto o’n gwaith yn apelgar a chroesawgar i bawb.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni fel prifwyl Cymru’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes ym mhob elfen o’n gwaith ac rydyn ni’n awyddus i gydweithio a phartneru gydag eraill i’n helpu i gyrraedd y nod.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar Barc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.