4 Awst 2024

Rydym yn cymryd llygredd sŵn o ddifrif

Mae lefelau sain yn cael eu monitro’n ofalus drwy gydol y digwyddiad, ac rydym wedi ymrwymo i weithio o fewn y terfynau a osodwyd gan ein trwydded.

Fel rhan o'n hymrwymiad mae cynllun rheoli sŵn yn cael ei roi ar waith gyda mesurau clir i gyfyngu ar amlygiad y cyhoedd i sŵn cerddoriaeth ormodol.

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro a’i ddiweddaru’n barhaus drwy gydol y digwyddiad, er mwyn osgoi aflonyddwch sŵn i drigolion a busnesau lleol.

Ein llinell cwynion sŵn yw 07842 846 067.