Medal Daniel Owen
6 Awst 2024

Roedd siom ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf heddiw, pan gyhoeddwyd nad oedd yr un o’r pum ymgais yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen wedi cyrraedd y brig, gyda neb yn deilwng yn y gystadleuaeth bwysig hon eleni

Y dasg oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, gyda Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 yn wobr. Y beirniaid oedd Jerry Hunter, Catrin Beard a Marlyn Samuel.

Jerry Hunter oedd â’r dasg annifyr o gyhoeddi nad oedd modd gwobrwyo eleni, ac yn ei feirniadaeth ysgrifenedig yn y ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’, dywedodd, “Gwn fod atal y wobr yn destun siom i ddarllenwyr ffuglen Gymraeg, ond peidied neb â digalonni. 

“Ymddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml, ac er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae’n afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn. 

“Yn hytrach na chwyno nad yw’r gystadleuaeth hon wedi esgor ar nofel newydd eleni, ewch yn syth at un o’r mannau hynny ar faes yr Eisteddfod sy’n gwerthu llyfrau - neu at eich siop lyfrau lleol - a phrynu nofel Gymraeg nad ydych wedi’i darllen. Mae digon o ddewis ac mae’r dewis hwnnw’n destun diolch, pleser a balchder.”

Er yn siomedig, roedd gan Catrin Beard air o gefnogaeth i’r rheini a ymgeisiodd eleni. Meddai, “Os yw ein prif ŵyl lenyddol am anrhydeddu nofel gyda gwobr ariannol hael a chlod cynulleidfa’r pafiliwn, mae’n deg bod y disgwyliadau’n uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw’n uwch fyth. 

“Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu nofel, ac fel un sydd â sawl ‘Pennod Un’ yn y drôr, allaf i wneud dim ond edmygu dyfalbarhad a dycnwch y rheiny sy’n dwyn y maen i’r wal. Ond mae mwy i ysgrifennu nofel na’r drafft cyntaf, a gyda’r disgwyliad y bydd cyfrol fuddugol ‘Y Daniel’ yn y siopau o fewn ychydig fisoedd yn unig i dderbyn y feirniadaeth, ein gobaith fel beirniaid oedd derbyn nofelau a oedd yn agos at fod yn ‘barod i fynd’.

“Siomedig, felly, oedd mai egin nofelau a ddaeth i law. Oes, mae yma addewid, gwreiddioldeb, difyrrwch ac enghreifftiau o ysgrifennu godidog, ond does dim un o’r cyfrolau yn agos at fod yn barod i’w chyhoeddi.

“Yr hyn sydd ei angen nawr yw amynedd – os aiff yr awduron a gyflwynodd eu gwaith ati i fireinio a gweithio ar eu drafftiau, mae gobaith gwirioneddol y bydd rhai, os nad pob un, yn barod i’w cyhoeddi ac yn nofelau teilwng maes o law. Edrychaf ymlaen at eu darllen eto bryd hynny.”

Roedd Marlyn Samuel hefyd yn siomedig nad oedd modd gwobrwyo eleni. Dywedodd, “Ro’n i’n edrych ymlaen at ddarllen storïau difyr a diddan: nofelau a fyddai’n cydio yn fy nychymyg ac yn dal fy niddordeb efo cymeriadau diddorol a chredadwy. Yn anffodus, cael fy siomi wnes i wrth ddarllen pob un ohonynt. Cafwyd ambell syniad digon difyr ond, yn ddieithriad, drafft cyntaf a gyflwynwyd gan bob un o’r pum ymgeisydd. Ar gyfer cystadleuaeth fel hon, mae rhywun yn disgwyl nofelau sy’n barod i’w cyhoeddi fwy neu lai.

“Mae yna edrych ymlaen yn fawr bob blwyddyn at gyfrol fuddugol ‘y Daniel’ wrth gwrs. Gwn ei bod yn siom i ddarllenwyr a llyfrwerthwyr nad oes neb wedi dod i’r brig eleni. Fodd bynnag, roedd y tri ohonom yn gwbl gytûn bod rhaid atal y wobr er mwyn cadw safon ac enw da’r gystadleuaeth.”   

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru