Dysgwr y Flwyddyn 2024, Antwn Owen-Hicks
7 Awst 2024

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Antwn Owen-Hicks

Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, yn dilyn cystadleuaeth o ddenodd y nifer mwyaf o geisiadau erioed. 

Cafodd 45 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r beirniaid oedd Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan. Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth. 

Mae Antwn yn defnyddio Cymraeg yn ddyddiol yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd. Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-gymraeg - ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu. 

Dechreuodd ymddiddori yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain. Aeth ati i ddechrau dysgu pan ddychwelodd i Gymru ac mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A’ Cymraeg. 

Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy, a’i ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.

Mae’n un o sylfaenwyr Carreg Lafar, band gwerin Cymraeg sydd wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y DU, Ewrop a gogledd America. 

Yn ogystal, dechreuodd gyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, ‘Y Parlwr’ gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn bennaf.

Cyhoeddwyd hyn ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 7 Awst, a derbyniodd Antwn Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards, i ddiolch i’w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion, ac i ddiolch i bawb arall sydd wedi dysgu’r iaith, neu sicrhau bod eu plant yn cael addysg Gymraeg er nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain.

Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol dlws, yn rhoddedig gan Menna Davies, er cof am thad, Meirion Lewis, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei mam, Clarice Lewis a’i chwaer, Mair, a £100 yr un, gyda’r wobr ariannol hon yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards. 

Cefnogir sesiynau Dysgwr y Flwyddyn ym Maes D gan gwmni cyfieithu Nico.

Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. 

Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar Barc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.