Partio alaw werin Ysgol Glanaethwy, Eisteddfod 2024
7 Awst 2024

Ystyrir yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, fel gŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf Ewrop

Dros gyfnod yr ŵyl, amcangyfrifir bod hyd at 6,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr amrywiol gystadlaethau ac yn gyffredinol mae dros 160,000 o bobl yn dod i mewn drwy'r giatiau i weld a mwynhau'r cystadlaethau.

Nid ar chwarae bach ystyrir yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n digwydd yr wythnos hon ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, yr ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth fwyaf yn Ewrop.

Ac mae swyddogion yr Eisteddfod yn hapus gyda safon y cystadlu eleni ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn yr oes fodern yn Aberdâr yn 1861 ac ers hynny mae wedi esblygu a datblygu.

Dywedodd Steffan Prys, Rheolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol: "Rydym wedi gweld cystadlu brwd yn yr Eisteddfod eleni. Cafwyd cystadleuaeth i gorau newydd dros y Sul ac roedd honno'n llwyddiannus iawn gyda dros 750 yn cymryd rhan, nifer o'r rhain yn cymryd rhan yn gystadleuol am y tro cyntaf. Roedd y gystadleuaeth yn un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod hyd yn hyn a rhywbeth fydd yn aros yn y cof."

Ychwanegodd fod swyddogion yr Eisteddfod wedi gweithio'n agos iawn hefo'r pwyllgorau lleol i lunio rhaglen gystadlu.

"Ein gobaith oedd rhoi rhyw fath o strwythur i'r wythnos. Dydd Llun roedd cystadlaethau i'r rhai dan 16 oed yn digwydd ac mae'r wythnos yn adeiladu i fyny at uchafbwynt yr Eisteddfod gyda chystadlaethau’r prif unawdwyr dydd Sadwrn pan fydd yr holl gystadleuwyr unigol yn cael cyfle i ragori ar lwyfan y Pafiliwn. 

“Cystadlaethau dawns, offerynnol, lleisiol, theatr, llefaru, alaw werin a cherdd dant. Dwi'n meddwl fod hynny’n esblygu patrwm cystadlu.

"Un peth arall rydym wedi ei ddatblygu'r wythnos yma yn yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yw'r cystadlu nos. O nos Fawrth ymlaen mae'r cystadlu’n parhau yn y Pafiliwn fin nos. 

"Roedd cystadlaethau i'r ieuenctid nos Fawrth, cystadlaethau corawl nos Fercher a bydd cystadlaethau gwerin nos Iau er enghraifft. Rydym yn gobeithio fod y rhaglen yn rhoi strwythur i'r wythnos ac yn rhoi pob cyfle i'r cystadleuwyr berfformio ac i'r gynulleidfa fwynhau. Mae hyn yn rhywbeth dwi'n gobeithio gwnaiff ddatblygu i'r dyfodol," meddai Steffan Prys.

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol mae'r Eisteddfod yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mawr neu brofiad ym meysydd cystadleuol yr ŵyl i ymuno â’r panelau canolog i gynorthwyo paratoi testunau difyr a diddorol a chynnig barn am yr Eisteddfod a’i gwaith.

Eglurodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod: "Rydyn ni’n awyddus i recriwtio aelodau newydd i nifer o’r panelau, ac yn arbennig o awyddus i glywed gan ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd ynghyd ag aelodau o gymunedau ethnig amrywiol ac unigolion sy’n ystyried eu hunain yn anabl.

Bydd sesiwn drafod yng Nghanolfan Ymwelwyr y Lido ar Faes yr Eisteddfod fore Gwener, 9 Awst, am 11:30am. Bydd cyfle i sgwrsio gydag ambell aelod o’n panelau dros baned a chlywed mwy am y gwaith a’r cyfrifoldebau.

Y dyddiad cau i ymgeisio yw 4 Medi, ac am fwy o wybodaeth e-bostiwch cystadlu@eisteddfod.cymru