Bea Young yn y Mosg ar y Maes, 2024
7 Awst 2024

Disgwylir i wasanaeth Mwslimaidd gymryd lle ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon

Mosg ar Faes Eisteddfod 2024

Mae'r grŵp Now in a Minute, grwp sy'n gweithio i wella mynediad i Fwslemiaid yng Nghymru, wedi bod yn cydweithio gyda Chyngor Mwslemiaid Cymru a Chanolfan Islam Prifysgol Caerdydd i greu gofod mosg ar y Maes ar Barc Ynysangharad.

Ar agor ers ddechrau'r Eisteddfod mae'r mosg yn ofod ble gall unrhyw berson, Moslemaidd a'i peidio, i weddïo.

Dywedodd Bea Young: "Man i weddïo oedd yr amcan gwreiddiol ond yn y misoedd diwethaf rydym wedi datblygu'r gofod fel man i ddathlu a thrafod hanes a thraddodiadau a'r ffaith bod Mwslemiaid yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg a bod ni'n cael ein gweld.

"Rydym wedi bod yma am gannoedd o flynyddoedd ac yn rhan o'r gymuned."

Ychwanegodd bydd y gwasanaeth yn digwydd am 13:00, dydd Gwener.

"Un o'r digwyddiadau rydyn ni’n edrych ymlaen ato yw'r gwasanaeth. Rydym yn mynd i'r mosg fel arfer ar ddydd Gwener i gael gwasanaeth a gweddïo mewn cynulleidfa ac mae Imam yn rhoi pregeth.

"Yr wythnos yma bydd Imam yn dod i'r Maes ac am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yn gwneud y gwasanaeth bron gyfan gwbl drwy'r Gymraeg.

"Bydd criw o Fwslemiaid o'r ardal yn dod fewn i weddïo, dan i'n gobeithio gwneud yr adhan, y galwad i weddïo yn uchel iawn ar y Maes i ddangos bod y gwasanaeth yn dechrau. Bydd croeso i bawb i ddod am sgwrs a chai, sy'n fath o de," meddai.

Bea Young, cydlynydd y Mosg ar Faes yr Eisteddfod eleni

Dywedodd Bea, sy'n wreiddiol o Llan Ffestiniog ger Blaenau Ffestiniog, eu bod wedi cael croeso cynnes ar y Maes.

Daw hynny yn sgil terfysgoedd diweddar a phrotestiadau gwrth-Fwslemaidd ar strydoedd rhai o drefi a dinasoedd Lloegr yn ddiweddar.

“Mae’n wych i deimlo bod ni’n rhan o’r Eisteddfod, a rhan o’r gymuned siaradwyr Cymraeg,” meddai.

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, eu bod yn awyddus i “gynrychioli pob elfen o’r gymuned, a bod yn Eisteddfod sy’n gwbl gynhwysol” a'i fod yn fwriad i barhau i drafod sut y gallwn ddatblygu’r berthynas dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Mosg ar Faes E