Os ydych yn cofio tywydd crasboeth Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976, neu'r gwyntoedd cryfion yn Nhŷ Ddewi yn 2002 neu'r glaw ym Môn saith mlynedd yn ôl mae ymchwilwyr eisiau eich atgofion
Tywydd Eisteddfodol yw prosiect newydd gan ddaearyddwr a llenorion o Adrannau Daearyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd ganddynt stondin 'pop-up' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd gyda'u partneriaid yr Eisteddfod, yr Urdd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Edward Llwyd.
Mae Dr Cerys Jones, Dr Hywel Griffiths, a’r Athro Sarah Davies yn ddaearyddwyr sy'n ymchwilio i agweddau cyfoes a hanesyddol ar newid hinsawdd, ac mae Dr Eurig Salisbury a Dr Cathryn Charnell-White yn haneswyr llên sy'n ymddiddori yn y dystiolaeth lenyddol ar gyfer hanes y tywydd.
Mae’r Doctoriaid Salisbury a Griffiths hefyd, wrth gwrs, yn feirdd sydd wedi ennill prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol. Hywel oedd enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008 ac enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015.
Enillodd Dr Salisbury y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 gyda'i nofel ‘Cai’ ac ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13. Mae'r ddau wedi bod yn archwilio themâu perthnasol yn eu cerddi.
"Dechreuodd y drafodaeth am y prosiect hwn wrth feddwl am y ffordd mae eisteddfodwyr yn aml yn cofio'r tywydd mewn eisteddfod benodol, yn hytrach na'r union flwyddyn," eglurodd Dr Cathryn Charnell-White o Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r tywydd wedi chwarae rhan allweddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd. Bwriadwyd cynnal Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1861 mewn pafiliwn mawr godwyd ar Gomin Hirwaun.
Ond tridiau cyn yr Eisteddfod fe'i chwythwyd i ffwrdd gan storm gref. Bu rhaid symud yr Eisteddfod i Neuadd y Dref a degawd yn ddiweddarach digwyddodd rhywbeth tebyg yn Nhremadog.
Ar y llaw arall, disgrifiwyd Prifwyl 1955 fel 'Eisteddfod Pwll-haul' gan ohebydd y Liverpool Echo oherwydd y tywydd braf.
"Yn syml, felly, yr hyn sydd gennym ni mewn golwg yw prosiect bach am dywydd eisteddfodol, sef casglu straeon ac atgofion, lluniau, cerddi, fideos, ac ati - yr haul, y glaw, y mwd, y llwch." dywedodd Dr Charnell-White.
Fel man cychwyn mae'r academyddion wedi cychwyn cribo drwy hen rifynnau o Barddas ac wedi dod o hyd i sawl 'englyn y dydd' am y tywydd, ac yn ogystal â llawer o luniau a delweddau yn Archif Sgrîn a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
"Un o'n partneriaid yn y prosiect yw Cymdeithas Edward Llwyd ac mae ganddynt 'Dywyddiadur’" ac mae cynnig y gair 'Eisteddfod' yn y blwch chwilio yn taflu pob math o wybodaeth ddiddorol i fyny," meddai Dr Charnell-White.
Nid oes penderfyniad terfynol wedi’ ei wneud ynglŷn â ffurf derfynol y project - efallai ceir llyfr bwrdd coffi, archif hanes llafar neu raglen deledu.
Os oes gennych atgofion, straeon, neu luniau yr hoffech eu rhannu am dywydd eisteddfodol neu os wyddoch am gerddi neu destunau eraill sy’n cofio’r tywydd mewn eisteddfodau arbennig cysylltwch â'r tîm drwy ddanfon e-bost ati tywydd@aber.ac.uk