Medal Ddrama 2024
8 Awst 2024

Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol na fydd seremoni’r Fedal Ddrama’n cael ei chynnal heddiw (dydd Iau 8 Awst)

Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar ôl cwblhau’r broses o feirniadu’r Fedal Ddrama, daethpwyd i’r penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni. 

Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn.

Bydd yr wybodaeth yma’n cael ei gyhoeddi o lwyfan y Pafiliwn, wrth i’r cystadlu ddod i ben am 16:00. Bydd y cystadlu’n ail-gychwyn am 17:00 ac yn dilyn trefn y rhaglen am weddill y noson.

Cynhelir yr Eisteddfod ar Barc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.eisteddfod.cymru.