8 Awst 2024

Yn dilyn pleidlais unfrydol yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod heddiw, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi penderfynu gweithredu Adran 4 (a) (iv) o’r cyfansoddiad i derfynu aelodaeth Huw Edwards o’r Eisteddfod ac yn sgil hynny, bydd hefyd yn cael ei ddiarddel o Orsedd Cymru.