Wnaeth glaw parhaus fawr ddim i leddfu hwyliau'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yr wythnos hon ym Mhontypridd
Gwnaeth cannoedd o bobl eu ffordd ar draws yr afon Taf i’r Maes ym Mharc Ynysangharad i gystadlu neu i weld beth sydd gan yr ŵyl i’w gynnig.
Yn ystod y dydd roedd y Pafiliwn a’r pafiliynau llai fel Maes D a Chaffi Maes B yn boblogaidd wrth i Eisteddfodwyr geisio lechu o’r glaw.
Bu staff a gwirfoddolwyr yr Eisteddfod yn gyflym i weithredu lle dechreuodd glaw gasglu'n byllau.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod rhagolygon y tywydd ar gyfer y ddau ddiwrnod sy'n weddill o'r ŵyl yn ffafriol.