Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn yr Eisteddfod Genedlaethol pob blwyddyn ac hebddynt byddai'n anodd cynnal y Brifwyl
O'r dwsinau o drigolion Rhondda Cynon Taf sydd wedi gweithio'n ddiflino i godi arian i'r cannoedd sydd wedi rhannu eu hamser yn ystod yr Eisteddfod mae eu cyfraniad yn hanfodol.
Ac mae trefnwyr y Brifwyl ac asiantaethau lleol sydd wedi cydweithio i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod yn gobeithio manteisio ar frwdfrydedd y gwirfoddolwyr a'u denu i gyfrannu eu hamser yn y dyfodol.
Dywedodd Morys Gruffydd, Cydlynydd Gwirfoddoli'r Eisteddfod: “Mae llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddibynnol ar gefnogaeth a chymorth llu o wirfoddolwyr, nid yn unig yn ystod yr wythnos ond drwy gydol y flwyddyn wrth baratoi ar gyfer y Brifwyl, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r tîm.
“Mae’r ffaith fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg newydd yn defnyddio gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fel cyfle i gael mwy o hyder i ddefnyddio ein hiaith yn gymunedol yn bwerus iawn, ac mae’r gwaith mae’r Eisteddfod yn ei wneud yn y maes hwn, yn lleol a chenedlaethol, i'w ganmol.
"Ond bwriad y cynllun hwn yw adeiladu ar y brwdfrydedd a sicrhau dilyniant o flwyddyn i flwyddyn."
Dechreuodd Morys ar ei waith yn gynharach eleni ac mae'n canmol y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud ar gyfer Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf.
"Mae croeso i bawb wirfoddoli. O Gymry Cymraeg i ddysgwyr a’r rheini sydd heb gychwyn ar eu taith iaith eto, mae lle i bawb.
"Mae paratoadau ar droed i ymestyn yr elfen hon yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf ac rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen ymhellach na hynny. Rydyn ni’n edrych ar y modd gorau i weithredu ac am fanteisio ar frwdfrydedd heintus ardaloedd sy'n cynnal yr Eisteddfod.
"Mae elfen naturiol o arbrofi ac mae'n debyg na fydd pob syniad yn gweithio ond cadw'r gwirfoddolwyr yn frwdfrydig ac yn gweithio yn eu cymunedau yw rhan bwysig o waddol y Brifwyl."
Dywedodd Nina Finnigan, cydlynydd gwirfoddoli Strategaeth Bryncynon, fod sicrhau gwaddol gwirfoddoli yn rhan bwysig o weledigaeth yr ŵyl.
"Rydyn ni’n awyddus i'r rhai sydd yn byw yn lleol gadw mewn cysylltiad ac efallai yn parhau i wirfoddoli gyda mudiadau fel ni. Fe fyddant yn gymorth mawr i ni gynnig eu gwasanaeth a'u gallu i siarad Cymraeg fel bod ein cymunedau yn cael y cyfleoedd i sgwrsio yn yr iaith tu allan i sefyllfa dosbarth," meddai.