Carwyn Eckley, enillydd Cadair Eisteddfod 2024
9 Awst 2024

Carwyn Eckley sy’n ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Yn un o’r ieuengaf i ennill y Gadair, mae’i gyfres o ddeuddeg cerdd yn hynod bersonol ac yn ymateb i’r profiad o golli’i dad pan oedd yn blentyn ifanc.

Cyflwynir y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Cadwyn.  Y beirniaid yw Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

Bu hon yn gystadleuaeth agos iawn, gydag un o’r beirniaid yn ffafrio cadeirio ymgeisydd arall, ond casgliad Brynmair aeth â hi yn y pen draw am awdl a oedd “yn ‘mynnu canu’n y co’ chwedl Dic Jones,” yn ôl Aneirin Karadog.

Yn ei feirniadaeth yng nghyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod eleni, dywed Huw Meirion Edwards, “Ymateb y mae’r bardd i’r profiad dirdynnol o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc. Mae dau ddegawd o alar ac o geisio dygymod â’r golled wedi eu distyllu i’r cerddi cynnil teimladwy hyn. Mae’r canu’n dwyllodrus o syml, bron yn foel mewn mannau, a’r dilyniant yn magu grym wrth fynd rhagddo.

“Llais tawel, ymatalgar yw llais Brynmair. Mae yma ddryswch, ing, euogrwydd, dirnad a dygymod graddol, cariad a gobaith – teyrnged, hefyd, i dad a mam a llystad – ond mae’r cyfan wedi ei fynegi yn ddiriaethol dynn. Prin fod yma gymhariaeth na throsiad, ond mae i bob gair ei bwysau.

“Mae Brynmair hefyd yn grefftwr medrus ar fesurau cerdd dafod. Does yma ddim gorchest gynganeddol sy’n tynnu sylw ati ei hun; mae’r cynganeddu yn rhyfeddol o rugl, ond byth yn slic, a’r ieithwedd yn gyfoes.”

Meddai Dylan Foster Evans, “Llais tawel ond cyfareddol yw eiddo Brynmair. Galar yw thema’r gadwyn hon o gerddi ac mae’r bardd yn olrhain ei ymateb i farwolaeth ei dad, gan fynd â’r darllenydd o haf 2002 hyd at Ddydd Calan 2024. Plentyn ydoedd yn 2002, ond nid llais plentyn sydd yma ond yn hytrach lais unigolyn sy’n edrych yn ôl ar brofiadau’r gorffennol ac yn myfyrio ar y broses o alaru.

Mae ei ieithwedd yn agos-atoch, yn gyfoes-gymysg o ran dylanwadau daearyddol ac yn argyhoeddiadol. Nid yw’n amlhau ansoddeiriau na delweddau ac mae’r llinellau symlaf yn llwyddo i ysgwyd y darllenydd, megis ‘dyna weld ei enw o’ ar ddiwedd y gerdd ‘Mynwent Macpela’.

“Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”

Dywed Aneirin Karadog, “Mae absenoldeb y tad yn hollbresennol wedyn drwy gwrs y cerddi ysgubol hyn. Mae’r golled, a’r ymgiprys â cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod â phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwysáu drwy ganu moel y cerddi hyn a’r absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull. A dyna ddawn Brynmair yn ei amlygu ei hun. Mae’n medru canu’n uniongyrchol, yn drawiadol o ddiwastraff ond gan lwytho geiriau ag ystyron mewn llinellau sy’n ymddangosiadol ddiaddurn.

“Mae Brynmair yn llwyddo i gyfleu trymder galar, anobaith llwyr galar, dagrau galar, a’r orfodaeth i gario galar ym mhobman gyda ni ac yna hefyd geisio cysuro ein cyd-alarwyr, a hynny drwy fod yn ddethol ac yn foel ei fynegiant… Mae’n llwyddo i ganfod y geiriau iawn sy’n rhoi mynegiant i ugain mlynedd o gario galar plentyn, arddegyn ac oedolyn gydag e.

“Estynnaf longyfarchiadau gwresog i Brynmair am ganu awdl a fydd yn aros yn hir yn y cof. Mae’n chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd.”

Hogyn 28 oed o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle yw Carwyn Eckley. Mae’n byw yng Nghaerdydd efo’i bartner Siân a’u ci, Bleddyn. Mae’n gweithio fel newyddiadurwr gydag Adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar a’r Byd yn ei Le

Taniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth pan roddodd ei fam gopi o Harry Potter yn ei law fel bachgen ifanc iawn, cyn dechrau ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg dan arweiniad Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle, a oedd yn chwip o athrawes Gymraeg. Astudiodd Gymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury. Enillodd y Gadair Ryng-golegol yn ystod ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21.

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon efo Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur, sydd wedi ennill y gyfres bedair gwaith. Mae’n ddiolchgar iawn i’r tri aelod arall am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i Rhys Iorwerth sydd wedi bod yn athro barddol iddo. Tu hwnt i ysgrifennu, pêl-droed yw un o’i brif ddiddordebau - mae’n aelod o Glwb Cymric ac yn dilyn y tîm cenedlaethol yng Nghaerdydd ac oddi cartref gyda hogia' Dyffryn Nantlle. Mae hefyd yn mwynhau mynd â Bleddyn am dro gyda Siân a’r teulu.

Y crefftwr Berian Daniel sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair.  Noddir y Gadair a’r wobr ariannol gan ddisgyblion a chymuned Ysgol Llanhari ar achlysur dathlu cyfraniad yr ysgol a Theulu Llanhari i 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. 

Derw o goedwig hynafol, gwaith haearn yn adlewyrchu diwydiant y cymoedd a glo, ‘Aur y Rhondda’, yw'r nodweddion yn y Gadair eleni.

Mae'r goeden wedi ei thorri yn ei hanner ac yn y canol mae 'afon' o ddarnau glo wedi’u boddi mewn resin gyda'r cwbl yn cael ei ddal yn ei le gan fariau haearn.

Mae’r tair rhan yn cynrychioli afonydd Rhondda, Cynon a Thaf sy'n rhoi ei henw i'r sir sy'n gartref i'r Brifwyl eleni.

Daeth y pren o goeden oedd yn tyfu’n agos at gartref Iolo Morganwg yn Y Bontfaen. Roedd rhaid i’r afon o lo fod yn gwbl gywir, gan fod pob darn bach wedi’i guddio gan resin, a bu’n rhaid i Berian arbrofi tipyn cyn perffeithio’r afon. 

Haearn sy’n creu'r Nod Cyfrin, ac mae elfennau o natur, diwylliant a diwydiant cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf yn y Gadair orffenedig. Daw'r ysbrydoliaeth am y rhain gan ddisgyblion yr ysgol.

Bydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, ar werth yn dilyn y seremoni hon.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.