10 Awst 2024

Bydd tri chyfansoddwr yn ymarfer gyda cherddorion proffesiynol ar gyfer perfformiad cyntaf darnau a gyfansoddwyd ar gyfer cystadleuaeth Tlws y Cyfansoddwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddarach dydd Sadwrn

Cyflwynir y Tlws i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr gan ddefnyddio delweddau o Rhondda Cynon Taf fel ysbrydoliaeth.

Dewiswyd Lowri Mair Jones, enillydd y Tlws y llynedd yn Llŷn ac Eifionydd, Nathan James Dearden a Tomos Williams i gyd-weithio gyda’r cyfansoddwr John Rea a phedwarawd o Sinfonia Cymru i greu cyfansoddiadau newydd ers dechrau’r flwyddyn, a pherfformir eu gweithiau am y tro cyntaf heno. 

Yn ôl Tomos Williams, cerddor profiadol ym myd jazz a cherddoriaeth gwerin, fod y profiad wedi bod yn fuddiol iawn iddo.

"Dwi'n gerddor jazz fwy na chlasurol ac mae'r offeryniaeth yma'n hollol wahanol. Wnes i gynnig am y profiad i dyfu'n gerddorol ac i wneud rhywbeth yn wahanol.

"Mae wedi bod yn bleser cyd-weithio gyda'r ddau gyfansoddwr arall, y beirniad a'r cerddorion sy'n chwarae'r piano, ffidil, clarinét a cello a chawn weld sut aiff pethau."

Daw Tomos o Aberystwyth ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac mae wedi bod yn perfformio fel trwmpedwr ers dros ugain mlynedd. 

Perfformiodd gyda'r band gwerin Fernhill a magu diddordeb byw yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru. Recordiodd gyda'r delynores deires Llio Rhydderch a sefydlodd y bandiau Burum a Khamira sy'n cyfuno alawon gwerin Cymru â jazz. 

Esgorodd y profiad yma o drefnu alawon gwerin ar gyfer band jazz ar ddyhead i gyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol, fwy heriol ac avant-garde, felly dechreuodd y prosiect Cwmwl Tystion sydd yn ymchwilio i hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru.

Mae Tomos hefyd yn cyflwyno cyfresi ar BBC Radio Cymru ac yn aelod o'r 'Barry Horns' sydd yn chware fel rhan o'r Wal Goch yn ystod gemau pêl-droed Cymru.

Ategodd Lowri Mair Jones sylwadau Tomos. Lowri gipiodd Tlws Y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.

"Penderfynais, ar ôl 20 mlynedd o beidio â chyfansoddi, ymgeisio a chefais sioc o ennill. Ond sbardunodd hyn imi gymryd cyfansoddi yn fwy o ddifri. 

"Ceisiais y tro hwn i gael fwy o brofiad o gyd-weithio gyda cherddorion a phobl newydd ac mae wedi bod yn fraint ac yn bleser fod yn rhan o'r gystadleuaeth hon," meddai.

Ganed Lowri ym Mhontypridd, a chafodd ei gwersi offerynnol cyntaf yn Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton. Bu’n ffodus iawn i ddysgu’r piano, ffidil a thelyn. Tra yn Ysgol Gyfun Rhydfelen daeth i ddechrau cyfansoddi am y tro cyntaf. 

Astudiodd radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion ac yna cwrs Meistr mewn cyfansoddi. Ar ôl gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Lowri sy’n cydlynu’r cystadleuaethau genedlaethol “BBC Young Musician” a “BBC Young Jazz Musician”. 

Mae hi’n aelod o Gôr Godre’r Garth, ac yn chwarae’r ffidil a’r delyn yng Ngherddorfa Symffoni’r Rhondda.

Mae Nathan James Dearden o Donyrefail yn y Rhondda yn gyfansoddwr, arweinydd ac addysgwr. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei berfformio a'i gynnwys gan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw Ewrop ac mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ledled y Deyrnas Unedig a thramor.

"Roeddwn mor hapus i gael fy newis ac i gyd-weithio gyda chyfeillion. Mae'r broses yn ddiddorol iawn a dwi heb wneud dim byd tebyg o'r blaen. Rydym wedi cyd-weithio a chynorthwyo ein gilydd ac mae hynny'n arbennig iawn," meddai,

Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain, Arweinydd y Consort Lleisiau Newydd a Chadeirydd Cyngor Cymru a Mentor gydag Academi Ivor. 

Ymhlith y prosiectau sydd ar y gweill mae lleoliad Passion sy'n cyfuno côr, ensemble siambr ac adrodd straeon digidol ymdrechol mewn partneriaeth â Chôr Royal Holloway.

Bydd eu darnau, sydd oddeutu wyth munud o hyd yr un, yn cael ei chwarae yn y Pafiliwn am 18:30 nos Sadwrn. Cyhoeddir enw’r enillydd ar ddiwedd y seremoni gyda chyflwyno’r Tlws a’r wobr ariannol. 

Cynhelir y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.