Enillydd Tlws y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yw Nathan James Dearden
Derbyniodd ei wobr mewn seremoni arbennig ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar Barc Ynysangharad nos Sadwrn.
Cyflwynir y Tlws i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr gan ddefnyddio delweddau o Rhondda Cynon Taf fel ysbrydoliaeth.
Roedd Nathan, o Donyrefail yn y Rhondda, yn un o dri cyfansoddwr oedd wedi gweithio gyda cherddorion proffesiynol ar gyfer perfformiad cyntaf o'i ddarn buddugol.
Dewiswyd Lowri Mair Jones, enillydd y Tlws y llynedd yn Llŷn ac Eifionydd a Tomos Williams yn ogystal a Nathan i gyd-weithio gyda’r cyfansoddwr John Rea a phedwarawd o Sinfonia Cymru i greu cyfansoddiadau newydd ers dechrau’r flwyddyn, a pherfformir eu gweithiau am y tro cyntaf heno.
Mae Nathan James Dearden yn gyfansoddwr, arweinydd ac addysgwr. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei berfformio a'i gynnwys gan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw Ewrop ac mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ledled y Deyrnas Unedig a thramor.
Cyn y seremoni dywedodd: "Roeddwn mor hapus i gael fy newis ac i gyd-weithio gyda chyfeillion. Mae'r broses yn ddiddorol iawn a dwi heb wneud dim byd tebyg o'r blaen. Rydym wedi cyd-weithio a chynorthwyo ein gilydd ac mae hynny'n arbenning iawn," meddai,
Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain, Arweinydd y Consort Lleisiau Newydd a Chadeirydd Cyngor Cymru a Mentor gydag Academi Ivor.
Ymhlith y prosiectau sydd ar y gweill mae lleoliad Passion sy'n cyfuno côr, ensemble siambr ac adrodd straeon digidol ymdrochol mewn partneriaeth â Chôr Royal Holloway.
Cynhelir y gystadleuaeth mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Cyflwynir y wobr o £750 gan John a Janice Samuel, Sidcup, Swydd Gaint, er cof am rieni John, David Hopkin a Gwenllian Samuel, Abernant, Aberdâr.