Bydd cyfle i drigolion ardal Wrecsam gael blas o’r hyn sy’n eu disgwyl y flwyddyn nesaf gyda gŵyl am ddim i’r teulu cyfan yn y ddinas i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal ymhen llai na blwyddyn
Gyda chwta 300 diwrnod i fynd tan yr Eisteddfod dros y penwythnos, mae trefnwyr y Brifwyl yn awyddus i bobl o bob oed gael blas ar weithgareddau’r Eisteddfod, gyda’r cyfan yn cychwyn nos Wener 4 Hydref, gyda gig Dafydd Iwan yn y Saith Seren.
Er fod pob tocyn i’r gig rhad ac ddim wedi mynd o fewn ychydig oriau, bydd digonedd o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal drwy gydol dydd Sadwrn, gyda Candelas, Pys Melyn a Buddug yn cloi’r cyfan mewn gig fawr yn Nhy Pawb ar ddiwedd y nos.
Mae’r Eisteddfod wedi gweithio’n agos gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam ar y rhaglen ar gyfer yr ŵyl, ac fe fydd y bartneriaeth hon i’w gweld yn glir yn ystod y dydd, gyda’r gweithgareddau teuluol wedi’u trefnu gan y fenter.
Bydd cyfle hefyd i ddysgwyr ddod i ymarfer eu Cymraeg mewn bore coffi ar Gampws Iâl yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth gyda Dysgu Cymraeg y Gogledd Ddwyrain, ac mae nifer o ysgolion Cymraeg y dalgylch hefyd yn perfformio yn y bore, er mwyn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal.
Gyda Wrecsam yn chwarae gartref yn erbyn Northampton yn y prynhawn, caiff cefnogwyr y tîm flas ar gerddoriaeth Gymraeg wrth i Candelas berfformio yn ‘fanzone’ y Cae Ras o flaen y gêm, a bydd cyfle i bawb ddangos eu cefnogaeth i’r Eisteddfod wrth i wirfoddolwyr lleol gasglu arian mewn bwcedi wrth ymyl giatiau’r clwb wrth i’r cefnogwyr dyrru i’r gêm.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Dyma flwyddyn Eisteddfod Wrecsam, ac rydyn ni’n falch iawn i fod yma yn y gogledd ddwyrain yn dathlu gyda phawb y penwythnos hwn. Mae’r croeso rydyn ni wedi’i gael yn ardal Wrecsam wedi bod yn ardderchog, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yn y trefniadau ar gyfer Gŵyl yr Hydref.
“Mae cynnal gweithgareddau fel hyn yn gyfle i roi blas Eisteddfod go iawn i’r bobl leol, er mwyn iddyn nhw wybod beth i’w ddisgwyl pan fyddwn ni’n cynnal yr ŵyl ei hun yma'r flwyddyn nesaf. Mae ‘na weithgareddau wedi’u trefnu yn enw nifer fawr o’n his-bafiliynau, gan gynnwys y Babell Lên, y Tŷ Gwerin, Encore a’r Pentref Plant, ac fe fydd ‘na deimlad eisteddfodol iawn o gwmpas y lle ddydd Sadwrn.
“Byddwn yn lansio blwyddyn yr Eisteddfod yn swyddogol gyda digwyddiad yn Nhŷ Pawb am 17:45 ac yna bydd y gweithgareddau’n parhau’n hwyr, gyda gornest Bragdy Pawb Wrecsam gyda beirdd lleol amlwg, a chyngerdd gyda Andy Hickie a Pedair yn eglwys hyfryd San Silyn, cyn y gig fawr yn Nhŷ Pawb i gloi’r cyfan.
“Mae tynnu popeth ynghyd wedi bod yn waith tîm arbennig iawn, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n gwirfoddolwyr lleol, ein partneriaid a Chyngor Sir Wrecsam am eu holl gymorth a’u cefnogaeth.
“Gobeithio y bydd pawb yn cael blas ar y gweithgareddau dros y Sul - a chofiwch - mae digon o gyfle i ymuno â’r tîm i helpu gyda gweithgareddau lleol a’r rhaglen artistig. Mae manylion popeth ar ein gwefan, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn Nhŷ Pawb dros y Sul hefyd. Dewch draw am sbec ac i fwynhau!”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr yr Iaith Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Gyda llai na blwyddyn i fynd nes bod Wrecsam yn croesawu’r digwyddiad diwylliannol mwyaf yn Ewrop, mae’r cyffro yn dechrau cynyddu.
“Bydd Gŵyl yr Hydref yn gyfle delfrydol i gael blas o’r Eisteddfod, os ydych chi’n eisteddfodwr selog neu os nad ydych chi wedi bod i’r ŵyl o’r blaen, ac yn ddathliad o gelfyddyd, iaith a diwylliant Cymru gyda digon i’w fwynhau ar gyfer bob oed. Rydw i’n annog pawb i ddod i gymryd rhan yn yr hyn sy'n argoeli i fod yn benwythnos gwych o weithgareddau."
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst yn Wrecsam. Am fwy o fanylion ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.