Rydyn ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Technegol profiadol i arwain ar gynllunio, cyflwyno a gosod cyfeiriad technegol yr Eisteddfod yn ogystal â chynllunio’r logisteg ar gyfer seilwaith gweithredol a thechnegol yr ŵyl. Mae'r rôl hon yn cynnwys trosolwg strategol a gweithredol.
Bydd gennych brofiad o weithio ar lefel uwch yn adran dechnegol cwmni cynhyrchu celfyddydau perfformio, digwyddiadau neu faes peirianneg sifil.
Byddwch hefyd wedi arwain a rheoli timau technegol, cynhyrchu a rheoli llwyfan ar eu liwt eu hunain a bydd gennych ddealltwriaeth o dechnegau llwyfannu/rigio/golygfa, systemau goleuo, sain ac awtomeiddio.
Disgrifiad swydd: Cyfarwyddwr Technegol
Lawrlwytho
Ffurflen gais (PDF)
Lawrlwytho
Ffurflen gais (Word)
Lawrlwytho