Sylwadau'r Archdderwydd Mererid o Faen Llog Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, fore Llun 5 Awst
Annwyl Gyfeillion
Croeso cynnes iawn ichi gyd i ddefod gyntaf yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Tair afon, merched trefi
a bryniau hen ein bro ni;
cân Tair: Rhondda, Cynon, Taf,
cân ein hiraeth cynharaf.
Twrw ifanc tair afon:
heddiw a ddoe’r orsedd hon.
Ddoe a heddiw, hen ac ifanc, ry’n ni’n rhannu’r presennol, ac am le godidog i gael ymbresenoli – on’d yw’r garddwyr wedi paratoi Parc o Faes hardd inni? Parc Ynysangharad, parc Evan a James James, a llinell glo eu hanthem yn crisialu nod sy mor bwysig i’r Orsedd: cydweithio fel bod yr iaith Gymraeg yn parhau.
‘Parhau’ sylwch – nid ‘piclo’. Nid y nod yw ei chadw mewn jar o finagr sur – ond ei rhoi hi’n felys ar wefusau pawb – a’i byw hi. Ac yn hynny o beth, ry’n ni’n arbennig o falch o gael croesawu siaradwyr newydd lluosog i ymuno â ni eleni.
‘Siaradwyr newydd’ – sylwch drachefn – nid ‘dysgwyr’. Dewisais y geiriau’n ofalus. Wedi’r cyfan, ry’n ni i gyd yn ddysgwyr iaith, gydol ein hoes. Byddaf i’n sicr yn gadael y cymoedd hyn â geiriau cyfoethog newydd fel ‘mysgu’ am ddatod /tynnu ar led, ac roedd rhywun ddoe wedi dysgu ‘tyle’ – am lwybr lan rhiw (‘fyny’r allt’ i’r rhai sy ’di dod o bell!)
Wedi degawdau o gyfundrefnau cibddall sy wedi dyrchafu unffurfiaeth, ry’n ni o’r diwedd yn dechrau gweld peth mor allweddol yw amrywiaeth – i fyd gwâr a daear iach.
Ac mae cynnal yr iaith Gymraeg yn gyfraniad at gynnal yr amrywiaeth angenrheidiol hwnnw. A rhan o’r cynnal yw sgwrsio ynddi. Felly dyma waith cartref i bawb: i’r rhai sy’n dechrau’n betrus â’u ‘helo, hon-a-hon/hwn-a-hwn dw i’, eled ati i fentro siarad. I’r rhai hyderus, rhugl sy’n medru’r megis-oblegids i gyd: pwylled a gwrandawed, gan gofio fod pob llais yn ceisio clust.
A dau gant a deg o flynyddoedd yn ôl i’r wythnos hon – 1814 – ar y Maen Chwŷf ar y comin fan ’co – un llais y bydden ni wedi ei glywed fyddai llais Iolo Morganwg, y cymeriad cymhleth hwnnw a aeth ati, mewn seremoni seml, i orchuddio llafn cleddyf a gosod testun i’r beirdd: Adferiad Heddwch.
Mae’r gair ‘adfer’ hwnnw’n ddiddorol. Mae’n ein hatgoffa ni, yn groes i farn cynifer, nad y’n ni’n reddfol ryfelgar. Byw mewn heddwch yw ein cyflwr naturiol ni.
Mae’r syniad o ‘adfer heddwch’ yn awgrymu bod heddwch yn bod – ei ganfod yw’r her; ond heb fynd ati’n fwriadol i chwilio amdano, ddown ni ddim o hyd iddo; a thra bod sïon awdurdodol yn mynnu sibrwd rethreg yr ‘ymbaratoi at ryfel’, mae’n anos fyth.
Penawdau’r ‘ymbaratoi at heddwch’ yw angen y dyddiau hyn.
Ond mae’r rhain yn benawdau heriol. Rhy heriol falle. Mae ymbaratoi at heddwch yn golygu edrych ar y byd mewn ffordd gwbl wahanol, blaenoriaethu’n wahanol, gwario’n harian ar bethau gwahanol – nid ar arfau ond ar gelfyddyd a dysg a chwarae teg ...
A rhan o’r ymbaratoi at heddwch yw galw amdano. Gan roi’r cleddyf yn ddiogel yn ei wain, dyma’n union y byddwn ni’n ei wneud gydol yr wythnos. Ac mae’r alwad am heddwch yn un daer y dyddiau hyn.
Cawson ni rihyrsal fach ar y seremonïau ’ma ddydd Iau, ac ar y ffordd adre, galwes i’n Aberdâr a phrynu watsh. Ac mae gen i ryw funud yn weddill.
Defnyddiaf hi i ddiolch i bobl yr ardal hon am yr arweiniad maen nhw wedi ei roi nawr ac ar hyd y degawdau. Chi’n gweld, ry’n ni wedi dod i’r ardal a roddodd gychwyn yn 1861 ar drefn ein Heisteddfod, ac i ardal sy’n rhoi’r ffasiwn fri ar gelfyddyd nes gosod arweinydd côr ar blinth. Ewch da chi i sgwâr Aberdâr i weld Caradog, Griffith Rhys Jones, y gof a’r cerddor wedi’i anfarwoli mewn cerflun, a meddyliwch amdano’n uno bron i bum cant o leisiau a threchu’r corau eraill i gyd yn y Palas Crisial yn Llundain.
Wn i ddim beth fydd tynged hyfforddwyr cystadleuwyr yr Eisteddfod hon, ond plinth neu beidio, diolch ichi gyd ac yn wir i bawb sydd wedi paratoi ar gyfer Prifwyl leni.
Ta pwy fydd yn gadael gyda neu heb gwpan, gadewch inni gofio geiriau Paul Robeson, y baswr byd-enwog a garodd y cymoedd hyn: ry’n ni gyd, meddai, yn frodyr a chwiorydd i’n gilydd ar gownt ein miwsig.
Wrth synhwyro cysgod yr hen bont, pont y tŷ pridd, arnon ni: cofiwn, er mwyn cael at yr heddwch hwnnw ry’n ni’n dyheu amdano, fod rhaid codi pontydd, ac y gall ein mwisig, ein celfyddyd a’n hiaith greu pontydd lliwgar, amrywiol rhyngom ni a’n gilydd - ar y Maes, yng Nghymru ac yn y byd.