Baner Croeso i Wrecsam o Wyl yr Hydref 2024
24 Hyd 2024

Heddiw (24 Hydref), cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol dinas Wrecsam fydd lleoliad y Brifwyl fis Awst 2025

Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i dir amaethyddol y flwyddyn nesaf, gyda’r Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B gyfochrog â’i gilydd a hynny mewn ardal sy’n gyfleus ar gyfer teithwyr o bob cyfeiriad.

Wrth gyhoeddi’r lleoliad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, “Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni’n mynd i ardal Is-y-coed, ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn fwy nag erioed yn dilyn y cyhoeddiad hwn heddiw. Diolch i bawb a fu ynghlwm gyda’r trafodaethau a’r trefniadau, ac rwy’n hyderus y cawn ni Eisteddfod hynod gofiadwy yma ar gyrion dinas Wrecsam.

“Bydd hwn yn faes braf ac wrth gyhoeddi’r lleoliad, mae’r elfen nesaf o’r gwaith yn cychwyn sef creu nifer o bartneriaethau lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau ein bod ni’n dilyn llwyddiant Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, gan roi lle amlwg i faterion amgylcheddol ym mhob un o’n trafodaethau.

“Mae’r gwaith o lunio’r rhaglenni artistig yn parhau, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymuno â’r tîm ac sy’n rhan o’r trafodaethau hyn.  Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr ym mhob cwr o’r sir sydd wrthi’n ddygn yn codi arian ac ymwybyddiaeth.  Mae’r gwaith yn mynd yn arbennig o dda, ac mae brwdfrydedd a chefnogaeth pawb yn y tîm yn gwbl wych.

“Mae nifer o gyhoeddiadau a cherrig milltir ar y gorwel rhwng nawr a’r Nadolig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am bob elfen o’r gwaith paratoi dros y misoedd nesaf. Mae croeso hefyd i unrhyw un sy’n awyddus i ymuno â’r tîm – dyw hi ddim yn rhy hwyr o gwbl. Ewch i wefan yr Eisteddfod i gofrestru a dewch i helpu, cefnogi a chymdeithasu gyda ni!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam, “Mae’n bleser cadarnhau mai Is-y-coed yw lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y flwyddyn nesaf. 

“Mae’r Eisteddfod yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei gefnogi a’i fwynhau drwy’r gweithgareddau a’r codi arian yn ystod y cyfnod paratoi, yn ogystal â’r ŵyl ei hun. 

“Dyma’r cyfle perffaith i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi neu ddechrau dysgu ychydig ar ein hiaith cyn i’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf o’i bath yn Ewrop gyrraedd ardal Is-y-coed yma yn Wrecsam fis Awst nesaf.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-coed o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.