Symposiwm Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dr Gareth Llŷr Evans, Cadeirydd Panel Theatr yr Eisteddfod Genedlaethol, a Darlithydd mewn Theatr a Pherfformio, Prifysgol Aberystwyth, fydd yn arwain trafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr, gyda chyfle hefyd i gyffwrdd ar elfennau eraill o'r celfyddydau.
Panel: Malachy Owain Edwards, Dr Gareth Evans-Jones, Melanie Owen, Dr Roger Owen, Manon Steffan Ros
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein, nos Fercher 27 Tachwedd am 17:30.
Bydd mynychwyr yn derbyn dolen Zoom i’r sesiwn ymlaen llaw. Mae angen cofrestru erbyn dydd Llun 25 Tachwedd fan bellaf.