llun unigol o swyddogion newydd pwyllgor gwaith Eisteddfod 2026
13 Tach 2024

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Sir Benfro yn 2026, mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn llywio’r gwaith dros y flwyddyn a hanner nesaf

Mae’r gwaith o greu’r pwyllgorau testun eisoes wedi cychwyn, a’r cyfarfodydd i gytuno ar gystadlaethau a beirniaid yn mynd rhagddynt, er mwyn sicrhau fod y Rhestr Testunau’n barod erbyn y gwanwyn. Bu’r rheini sydd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r pwyllgorau lleol yn pleidleisio er mwyn ethol swyddogion y Pwyllgor Gwaith dros yr wythnosau diwethaf.

John Davies yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Yn gyn-arweinydd ar Gyngor Sir Penfro, mae John wedi gwasanaethu ar amryw o gyrff a sefydliadau cenedlaethol, a hynny heb golli golwg ar ei filltir sgwâr. Gyda dealltwriaeth gref o’r ardal a’i phobl, mae’n awyddus i Eisteddfod 2026 bontio rhwng y tair ardal gan annog trigolion cymunedau ar draws y dalgylch i ddod ynghyd dros y cyfnod nesaf wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Mae Tegryn Jones wedi’i ethol yn Is-gadeirydd Strategol Eisteddfod 2026. Mae ganddo’r profiad o weithio’n rhanbarthol ar draws y tair sir sy’n rhan o’r dalgylch drwy’i waith fel Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’n cydweithio gyda chwmpas eang o randdeiliaid, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a chymunedau yn ei waith, ac mae’n angerddol am y Gymraeg a’n diwylliant.

Carys Ifan sydd wedi’i hethol yn Is-gadeirydd Diwylliannol ar gyfer 2026. Yn wreiddiol o Landudoch, mae Carys yn byw yn Llangrannog ac yn gweithio yn Sir Gâr, ac felly’n cynrychioli’r tri rhanbarth sy’n rhan o’r Eisteddfod yn 2026. Yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Egin, mae Carys wedi gweithio ar nifer fawr o brosiectau diwylliannol o bob math. Mae hefyd wedi gwirfoddoli ar weithgareddau a digwyddiadau artistig a cymunedol ar hyd a lled y dalgylch.

Cris Tomos sy’n gyfrifol am Gronfa Leol Eisteddfod 2026. Mae Cris wedi gweithio yn y sector datblygu cymunedol ers dros 30 mlynedd, ac wedi cefnogi grwpiau cymunedol a hyrwyddwyr i godi arian ar gyfer mentrau cymunedol a chwmnïau cydweithredol o bob math. Mae’n gweithio i PLANED, elusen datblygu cymunedol sy’n cefnogi mentrau cymunedol ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith yw Non Davies. Mae’n Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant a’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Ceredigion, ac yn gofalu am Theatr Felinfach, Gwasanaeth Cerdd y Sir, Amgueddfa Ceredigion a CERED: Menter Iaith Ceredigion. Roedd hi’n gadeirydd pwyllgor Cronfa Leol Aberteifi a’r Cylch ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn 2022, ac yn is-gadeirydd y Gronfa Leol ar draws y dalgylch.

Wrth groesawu’r tîm, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda John a’r tîm dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi am Eisteddfod 2026.

“Mae hi bron yn chwarter canrif ers cynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal. Mae 2026 yn flwyddyn bwysig wrth i ni ddathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi nol yn 1176. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithredu mewn ffordd newydd mewn dalgylch sy’n cynnwys rhannau o ddwy sir arall, sy’n gyfle i ni gael cydweithio unwaith eto gyda thrigolion Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.”

Bydd rhagor o gyhoeddiadau dros yr wythnosau nesaf, gyda’r gwobrau ynghyd â chyfle i wneud cais i gyflwyno’r Gadair a’r Goron yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Llantwd o 1-8 Awst 2026.

Llun (ch-d): John Davies, Carys Ifan, Cris Tomos, Non Davies, Tegryn Jones