Gyda’r ardal yn nodi 100 diwrnod ers yr Eisteddfod yr wythnos hon, cyhoeddwyd rhestr fer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod, prosiect sy’n cael ei gynnal am y tro cyntaf eleni yn ardal Rhondda Cynon Taf
Mae’n brosiect i nodi gwaddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan yr Eisteddfod a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf gyda chefnogaeth Helo Blod , Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Ymbweru Bro.
Lansiwyd y cynllun fel rhan o weithgareddau Diwrnod Shw’mae Su’mae ym mis Hydref, a chyflwynir y gwobrau mewn digwyddiad arbennig yn y Lido ar Barc Ynysangharad, Pontypridd, safle Maes y Brifwyl eleni, fore Iau 5 Rhagfyr. Dyma fydd digwyddiad olaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Rhannwyd y gwobrau i bum categori, a derbyniwyd dros 35 o enwebiadau o bob cwr o’r dalgylch.
Y categorïau yw:
- Defnydd o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni sydd wedi datblygu’u defnydd o’r Gymraeg a chreu cyfleoedd i staff a chwsmeriaid i ddefnyddio ein hiaith.
Rhestr fer: Yr Hen Lyfrgell, Porth, Rhondda; Rustico, Pontypridd, Taf; Cangen Cymdeithas Adeiladu Principality, Pontypridd, Taf. - Defnydd gweladwy o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni a wnaeth ddefnydd creadigol o’r Gymraeg yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac yn dilyn yr Eisteddfod.
Rhestr fer: Yr Hen Lyfrgell, Porth, Rhondda; Clwb y Bont, Pontypridd, Taf; Pete’s Shop, Pontypridd, Taf; Bizzie Lizzie’s Baby Shop, Pontypridd, Taf. - Gwobr arbennig: Cyfle i wobrwyo clwstwr o fusnesau sy’n cydweithio neu sydd ar un safle a ddangosodd gefnogaeth i’r Eisteddfod a’r Gymraeg.
Rhestr fer: Stryd y Felin, Pontypridd, Taf; Clwstwr Penderyn, Cynon. - Gwobr diolch lleol: Gwobr arbennig wedi’i chyflwyno gan wirfoddolwyr lleol i ddiolch i fusnes neu gwmni a fu’n gefnogol o’r gwaith trefnu a chodi arian yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod.
Rhestr fer: Tafarn y Lion, Treorci, Rhondda; Clwb Rygbi Aberdâr, Cynon; Clwb y Bont, Pontypridd, Taf. - Gwobr Croeso i’r ŵyl: Cyfle i’r rheini sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod i enwebu busnes neu gwmni a ddangosodd groeso arbennig i Eisteddfodwyr yn ystod wythnos yr ŵyl.
Rhestr fer: Zucco, Pontypridd, Taf; Clwb y Bont, Pontypridd, Taf.
Meddai Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau arbennig yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu gyda’n gilydd ddechrau Rhagfyr pan fyddwn ni’n cyhoeddi enwau’r enillwyr.
“Diolch i bawb am enwebu busnesau a chwmnïau o bob cwr o’r dalgylch ar gyfer y gwobrau, a diolch o galon i fusnesau’r ardal am eu holl gefnogaeth, yn y cyfnod hyd at ac yn ystod yr Eisteddfod.”
Ychwanegodd Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, “Roedd yn bleser croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal a chydweithio’n agos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cafodd busnesau’r ardal ymateb gwych yn ystod yr Eisteddfod, ac rwy’n gwybod fod nifer o ymwelwyr wedi dychwelyd i’r ardal ers hynny i fwynhau, sy’n newyddion arbennig o dda i economi ardal Rhondda Cynon Taf.
“Mae’r gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu cyfraniad rhai o’n busnesau lleol i’n hiaith dros y misoedd diwethaf ac mae wedi bod yn fraint darllen yr enwebiadau rydyn ni wedi’u derbyn ar gyfer y gwobrau. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac mae’r Fenter yn edrych ymlaen at gydweithio gyda phawb dros y misoedd nesaf.”
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, "Roedd yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol i Rhondda Cynon Taf, ac roedd busnesau lleol yn rhan enfawr o wneud y profiad yn arbennig iawn i ymwelwyr ac i drigolion.
"Fe wnaeth busnesau ledled Rhondda Cynon Taf bob ymdrech i groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gan roi croeso cynnes enwog y Cymoedd iddyn nhw. Roedden nhw wedi gweithio'n galed i addurno eu busnesau, llunio bwydlenni arbennig, a manteisio i'r eithaf ar y cannoedd o filoedd o bobl oedd yn mwynhau'r dathliadau drwy gydol yr wythnos.
"Llongyfarchiadau i'r holl fusnesau sydd ar restr fer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod, ac rydw i'n dymuno'r gorau i bob un ohonyn nhw yn y seremoni wobrwyo a phob llwyddiant i'w busnesau yn y dyfodol."