Nathan James Dearden, enillydd Medal y Cyfansoddwr yn ystod y seremoni ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod 2024 mewn clogyn porffor a chefndir glas
5 Rhag 2024

Thema Medal y Cyfansoddwr eleni yw Cymru Fydd. Y dyddiad cau yw 10:00, dydd Mawrth 7 Ionawr

​I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion ​​amlycaf ardal Wrecsam, rydym am i artistiaid gyflwyno syniadau ar sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: Wythnos yng Nghymru Fydd

​Mae Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd yn llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr o Sinfonia Cymru. Bydd y tri chyfansoddwr dethol yn gweithio gyda thri chwaraewr llinynnol hynod amryddawn: Simmy Singh (ffidl), David Shaw (ffidl/fiola) a Garwyn Linnell (sielo). Mae Simmy, David a Garwyn yn chwarae llinynnau yn wahanol: maent yn gyfforddus yn ymestyn i’r ystod ehangaf o genres, gan ddefnyddio loop pedal , blwch shruti, offerynnau taro dwylo a'u lleisiau yn y cyfansoddiad. Cymerwch olwg ar ychydig o'u gwaith yma, yma ac yma.

​Bydd y tri chyfansoddwr detholedig yn gweithio gyda Simmy, Dave a Garwyn mewn gweithdai dros gyfnod o chwe mis, yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ble fydd perfformiad byw o’u gweithiau ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod yn y Pafiliwn ar ddydd Sadwrn 9 Awst 2025. Bydd un o'r tri chyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr o £750.

Bydd tri chyfansoddwr dethol yn derbyn ffi o £500 yr un am gymryd rhan yn y gweithdai wyneb-i-wyneb a chysylltiadau ar-lein. Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru, o unrhyw genre, a chyfraennir costau teithio (o fewn Cymru) i’r gweithdai (Caerdydd) a’r perfformiad (Maes yr Eisteddfod, Wrecsam).

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod, Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, a'r mentor-gyfansoddwr eleni yw'r Athro Pwyll ap Siôn.

Cliciwch ar y blwch isod am ragor o wybodaeth a manylion am sut i gyflwyno cais.