Mae sawl ffordd y gall unigolion fod yn gymwys i’w hurddo’n aelodau, ond rhaid pwysleisio bod y gallu i siarad a deall Cymraeg yn amod i bob un ohonynt.
Trwy ennill un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol neu’r Urdd
Mae enillwyr prif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn derbyn gwahoddiad i ymaelodi oddi wrth y Cofiadur. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig yn y flwyddyn yn dilyn eu llwyddiant, ac nid oes angen i’r enillwyr wneud dim. Mae’r Bardd Cenedlaethol a Bardd Plant Cymru hefyd yn cael gwahoddiad ar ddiwedd eu tymor.
Trwy arholiadau’r Orsedd
Gellir sefyll Arholiadau’r Orsedd, a gynhelir ar ddiwedd Ebrill bob blwyddyn. Y meysydd gosod yw Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Iaith, a Rhyddiaith, yn ogystal â meysydd arbennig i Delynorion, Datgeiniaid Cerdd Dant, ac Utganwyr. Ceir mwy o wybodaeth yma: Arholiadau'r Orsedd | Eisteddfod
Trwy radd gymwys
Mae hawl gan raddegion yn y Gymraeg, Cerddoriaeth a Hanes Cymru, neu mewn unrhyw bwnc arall a astudiwyd yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, wneud cais am aelodaeth trwy gysylltu â’r Cofiadur: cofiadur@eisteddfod.cymru Bydd rhaid darparu llungopi o’r dystysgrif radd.
Trwy enwebiad
Derbynnir unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i fywyd Cymru, y Gymraeg a’i diwylliant, yn aelodau er anrhydedd. Y drefn yw bod aelod presennol o’r Orsedd yn enwebu, ac aelod arall yn eilio, ar ffurflen bwrpasol, gan amlinellu natur cyfraniad yr enwebai. Mae mwy o wybodaeth, ynghyd â’r ffurflen enwebu, i’w cael yma: Enwebu i Urdd Derwydd er Anrhydedd yn Yr Orsedd | Eisteddfod