Adwaith, Anweledig a Bwncath yw tri o’r artistiaid fydd yn perfformio ar y Maes yn Eisteddfod Wrecsam eleni
Cyhoeddwyd hyn, ynghyd ag enwau bron i ugain o berfformwyr eraill ar hyd a lled y Maes fel rhan o’r don gyntaf o wybodaeth gan y trefnwyr eleni.
Yn ogystal â llu o fandiau fydd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes, mae rhai o brif berfformwyr a themâu sesiynau hwyrol Wrecsam wedi’u cyhoeddi gan Trystan ac Emma ar eu rhaglen ar BBC Radio Cymru y bore ‘ma.
Ymysg y rheini fydd yn ymddangos yn y Tŷ Gwerin mae Casi, Vrï a chriw poblogaidd Twmpdaith, a fydd yn rhan o sesiwn newydd sbon, Bandioke Gwerin, sef karaoke caneuon gwerin gyda band, syniad a ddaeth drwy un o bwyllgorau lleol yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Yn dilyn llwyddiant nosweithiau agos-atoch ym Mhontypridd y llynedd, bydd cyfres o sesiynau difyr gyda naws gerddorol yn cael eu cynnal yn Encore gyda’r nos yn ystod yr wythnos. Mae’r rhain yn cynnwys dathliad o’r Hen Ganiadau, caneuon Osborne Roberts a William Davies, a chyfle i nodi canrif a hanner ers i Joseph Parry gyfansoddi Myfanwy. Bydd manylion rhagor o nosweithiau tebyg yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnos nesaf.
Bydd Theatr Cymru a Theatr Clwyd yn cydweithio eto eleni ar brosiect Wrecslam, ac maen nhw wedi bod yn chwilio am bedwar o bobl sy’n ysgrifennu dramâu sy’n feiddgar, cyfoes a doniol dros yr wythnosau diwethaf i greu dramâu byrion a fydd yn cael eu perfformio yng Nghaffi Maes B gyda’r nos yn ystod yr wythnos. Daw hyn yn dilyn llwyddiant perfformiadau theatrig eraill yn y caffi dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae ambell ffefryn arall hefyd yn ôl eleni, gan gynnwys Mei Gwynedd a’r Tŷ Potas bytholwyrdd, a fydd yn ymddangos yn y Babell Lên nos Wener. A bydd criw Mas ar y Maes yn y Babell Lên nos Iau, pan fyddwn ni’n galw am gau’r drysau yn y cefn, a chwarae teg i bawb, wrth i ‘Steddfod Stifyn ddychwelyd am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd.
Unwaith eto eleni, bydd y rhaglen gystadlu – calon yr Eisteddfod -yn rhedeg i’r hwyr. Bu hyn yn llwyddiannus iawn y llynedd a’r bwriad yw cyfuno’r elfen gystadleuol gydag adloniant, er mwyn creu nosweithiau cofiadwy i’n cystadleuwyr yn ogystal â’r gynulleidfa.
Wrth gyhoeddi’r don gyntaf o berfformwyr ac artistiaid eleni, cyhoeddwyd hefyd fod tocynnau bargen gynnar yn mynd ar werth ar wefan yr Eisteddfod, fore Llun 3 Mawrth am 10:00.
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Mae’r rhestr gychwynnol yma o artistiaid a pherfformwyr yn cynnig blas o beth fydd gennym ar y Maes ar gyrion Wrecsam ymhen cwta chwe mis. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r pwyllgorau lleol yn yr ardal am dros flwyddyn a hanner, ac mae pawb yn falch o’r cyfle i ddechrau rhannu’r arlwy gyda phawb.
“Mae rhagor o gyhoeddiadau i ddod, gyda’r don nesaf o berfformwyr i’w chyhoeddi ar 28 Mawrth, ac yna’r don olaf ar 24 Ebrill, pan mai dim ond 100 diwrnod fydd i fynd tan y byddwn yn croesawu pawb atom i’r Maes. Bydd yr amserlenni i gyd ar wefan yr Eisteddfod erbyn canol Mehefin.
“Bydd y cyhoeddiad nesaf yn cynnwys manylion llawn cyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni, sy’n gywaith rhwng dau gyn-enillydd amlwg yn yr ŵyl, Manon Steffan Ros ac Osian Huw Williams. A chyda’r Eisteddfod yn ninas Wrecsam, mae blas y bêl gron yn y cynnwys.”
A hithau’n ddechrau Mawrth yr wythnos nesaf, bydd carafanau, stondinau a sesiynau Cymdeithasau hefyd yn mynd ar werth ar wefan yr Eisteddfod fore Llun 3 Mawrth. Gallwch archebu eich safle carafán a sesiwn ym mhabell y Cymdeithasau o 10:00 fore Llun, ac yna bydd stondinau’n mynd ar werth am 12:00 (hanner dydd).
Yn ogystal, bydd cyhoeddiad pellach i ddilyn heno am rywle newydd sbon i aros yn ystod yr wythnos. Dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod am ragor o 17:00 ymlaen.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.
