Mae dyddiad cau cystadlaethau cyfansoddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn prysur agosáu
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol yn awyddus i weld llond lle o gystadlu ar draws pob adran eleni.
Meddai Llinos Roberts, “Rydyn ni’n falch iawn o restr testunau Eisteddfod Wrecsam, a hoffwn i ddiolch unwaith eto i bawb a fu’n rhan o’r gwaith i lunio rhestr mor ddifyr ac amrywiol.
“Mae’n anodd credu mai ychydig ddyddiau’n unig sydd gan bobl ar ôl i gwblhau’u gwaith a sicrhau fod popeth wedi’i uwchlwytho’n gywir i wefan yr Eisteddfod. Peidiwch â gadael pethau tan y munud olaf – mae’n well gwybod bod eich gwaith wedi cyrraedd yn hytrach na phoeni am uwchlwytho ar y dyddiad cau.
“Wrth i ni agosáu at ddechrau Ebrill, rydyn ni hefyd yn sylweddoli mai cwta bum mis sydd i fynd tan y byddwn ni’n croesawu pawb atom i ddinas Wrecsam, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at wneud hynny.
“Mae pethau’n mynd yn dda iawn yma. Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid i berfformio ar y Maes eleni ac mae rhagor o gyhoeddiadau i ddod yr wythnos nesaf. Mae’r maes carafanau wedi gwerthu allan, stondinau’n mynd yn arbennig o dda a dim ond llond llaw o sesiynau Cymdeithasau sydd ar ôl i’w llogi ar y penwythnosau.
“Rydyn ni hefyd wedi lansio maes pebyll newydd, Hwyrnos, ar gyfer y rheini sy’n teimlo ychydig yn hen i aros ym Maes B ond ddim yn barod am y maes carafanau eto, ac mae’r ymateb i hwn hefyd wedi bod yn arbennig o dda.
“Bydd y cyfle i brynu tocynnau bargen gynnar yn dod i ben ar 1 Ebrill, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd ar-lein cyn hynny i fachu bargen.”
Unwaith y bydd y ceisiadau cyfansoddi wedi cyrraedd, dim ond un dyddiad cau fydd ar ôl sef 1 Mai, dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan. Mae manylion y cystadlaethau i gyd ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru ac mae cyfle o hyd i gynnig gwobr yn Eisteddfod Wrecsam eleni, gyda’r manylion yma hefyd ar gael ar-lein.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.