20 Maw 2025

Yn dilyn llwyddiant mawr gwerthiant maes carafanau Eisteddfod Wrecsam ddechrau’r mis, mae trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd rhagor o safleoedd yn mynd ar werth

Mae 800 o safleoedd eisoes wedi’u gwerthu a bydd 120 o safleoedd ychwanegol yn cael eu rhyddhau nos Fercher 26 Mawrth am 18:00.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb i logi safle ddefnyddio’r ddolen hon i archebu, Maes Carafanau a Gwersylla / Caravan and Camping Site neu dilyn y ddolen o dudalen flaen gwefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru. Bydd y ffurflen archebu’n ymddangos yma am 18:00 nos Fercher nesaf.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst yn Isycoed, ar gyrion dinas Wrecsam. Am ragor o wybodaeth ewch i eisteddfod.cymru.