Daeth dros 50 o gynrychiolwyr busnes o bob rhan o Rhondda Cynon Taf at ei gilydd yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd y bore ‘ma i ddathlu enillwyr Gwobrau Busnes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Bwriad y prosiect a lansiwyd yn dilyn yr ŵyl a gynhaliwyd yn lleol y llynedd oedd dathlu ymrwymiad busnesau lleol i’r Gymraeg, ynghyd â’r effaith a gafodd yr Eisteddfod ar fusnesau yn ystod mis Awst y llynedd.
Trefnwyd y gwobrau gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf, yr Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf, gyda chefnogaeth Helo Blod ac Ymbweru Bro.
Roedd Gweinidog y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS yn y digwyddiad i longyfarch pawb a sôn am bwysigrwydd prosiectau fel hyn er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.
Roedd pum categori yn y gwobrau, a derbyniwyd dros 35 o enwebiadau o bob cwr o’r dalgylch, a daeth cynrychiolwyr o bob un o’r busnesau i’r Lido er mwyn clywed pwy ddaeth i’r brig ym mhob maes.
- Gwobr defnydd o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni sydd wedi datblygu’u defnydd o’r Gymraeg a chreu cyfleoedd i staff a chwsmeriaid i ddefnyddio ein hiaith. Cyflwynwyd gan Myfanwy Jones, Mentrau Iaith Cymru.
Enillydd: Rustico, Pontypridd, Taf
Hefyd ar y rhestr fer: Yr Hen Lyfrgell, Porth, Rhondda; Cangen Cymdeithas Adeiladu Principality, Pontypridd, Taf. - Gwobr defnydd gweladwy o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni a wnaeth ddefnydd creadigol o’r Gymraeg yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac yn dilyn yr Eisteddfod. Cyflwynwyd gan Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.
Enillydd: Yr Hen Lyfrgell, Porth, Rhondda
Hefyd ar y rhestr fer: Clwb y Bont, Pontypridd, Taf; Pete’s Shop, Pontypridd, Taf; Bizzie Lizzie’s Baby Shop, Pontypridd, Taf. - Gwobr clwstwr o fusnesau: cyfle i wobrwyo clwstwr o fusnesau sy’n cydweithio neu sydd ar un safle a ddangosodd gefnogaeth i’r Eisteddfod a’r Gymraeg. Cyflwynwyd gan y Cyng. Andrew Morgan, Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Enillydd: Stryd y Felin, Pontypridd
Hefyd ar y rhestr fer: Clwstwr Penderyn, Cynon. - Gwobr diolch lleol: gwobr arbennig wedi’i chyflwyno gan wirfoddolwyr lleol i ddiolch i fusnes neu gwmni a fu’n gefnogol o’r gwaith trefnu a chodi arian yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod. Cyflwynwyd gan Betsan Moses, Eisteddfod Genedlaethol.
Enillydd: Tafarn y Lion, Treorci, Rhondda
Hefyd ar y rhestr fer: Clwb Rygbi Aberdâr, Cynon; Clwb y Bont, Pontypridd, Taf. - Gwobr Croeso i’r ŵyl: cyfle i’r rheini sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod i enwebu busnes neu gwmni a ddangosodd groeso arbennig i Eisteddfodwyr yn ystod wythnos yr ŵyl. Cyflwynwyd gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd Cabinet fros Gyllid a’r Gymraeg.
Enillydd: Clwb y Bont, Pontypridd, Taf.
Hefyd ar y rhestr fer: Zucco, Pontypridd, Taf.
Hwn oedd digwyddiad olaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, a bu’n rhaid ei ohirio cyn y Nadolig yn dilyn y llifogydd ddechrau Rhagfyr.
Meddai Helen Prosser, yn ei swyddogaeth olaf fel cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, “Diolch i bawb a fu’n rhan o’r Gwobrau, sydd wedi bod yn gyfle gwych i ddathlu’r ymateb a gafwyd i ymweliad yr Eisteddfod y llynedd. Mae mor braf gweld a chlywed y sylwadau positif sydd gan fusnesau o bob rhan o’r sir am yr Eisteddfod ac am y Gymraeg.
“Ein bwriad oedd hyrwyddo’r Gymraeg a dangos y ddolen bwysig sy’n bodoli rhwng iaith a busnes, ac rwy’n falch ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn fel rhan o’n gweithred olaf ni fel criw Eisteddfod 2024. Rydyn ni i gyd yn ddiolchgar i’r fenter iaith a’n partneriaid ni am eu parodrwydd i gydio yn y gwaddol a pharhau gyda’r gwaith. Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n rhan o’r prosiect yma.”
Dywedodd Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, “Mae’r ymateb gafodd yr Eisteddfod yn lleol wedi bod yn wych, ac rydyn ni fel menter am ddiolch i bob un o’r busnesau lleol a aeth ati i groesawu pawb i’r ardal dros yr haf.
“Mae’r ffaith bod nifer o fusnesau’n dal i groesawu pobl o’r tu hwnt i’r ardal yn brawf fod gennym ni fel sir gymaint i’w gynnig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau o’r gwaith gyda busnesau lleol i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Mae dyddiau fel heddiw’n rhan bwysig o’n gwaith ac yn dangos pwysigrwydd y Gymraeg ym mhob elfen o’n bywydau.”
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Mae heddiw wedi bod yn ffordd hyfryd i gloi prosiect Eisteddfod Rhondda Cynon Taf. Mae’r ymateb i’r gwobrau ac i’r gwaith yn ei gyfanrwydd wedi bod yn arbennig iawn, ac rydyn ni’n hynod falch o fod wedi gallu dod i’r ardal ar ôl cymaint o flynyddoedd a chynnal prosiect cymunedol a gŵyl sydd wedi gadael cymaint o waddol ar eu holau.
“Rydw i’n arbennig o falch ein bod ni wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfa a oedd yn cael blas ar ein hiaith a’n diwylliant am y tro cyntaf, a braf yw gweld sut mae busnesau lleol wedi elwa o’r Eisteddfod, yn ogystal â sut mae’r Eisteddfod yn elwa o ymroddiad a chefnogaeth ein gwirfoddolwyr a’r gymuned leol yn flynyddol. Diolch i’r fenter am y cydweithio hapus ar hyd y daith, ac fe fyddwn ni’n cefnogi ac yn dilyn pob llwyddiant a ddaw i’n hiaith a’n diwylliant yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol.”
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar dir Parc Ynysangharad fis Awst 2024. Cynhelir yr Eisteddfod eleni yn Wrecsam o 2-9 Awst.




