2 Ebr 2025

Rydym yn chwilio am grefftwr/wyr i greu Coron Eisteddfod y Garreg Las, 2026

Y cysyniad

Rydym yn gwahodd crefftwyr i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Caiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy gystadleuaeth farddol fwyaf yr Eisteddfod, a gynhelir yn Llantwd, ger Eglwyswrw rhwng 1 a 8 Awst 2026. Noddir Coron yr Eisteddfod yn 2026 gan deulu’r Parch. WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs. Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal. Y teulu maes o law, fydd yn cytundebu’r ymgeisydd llwyddiannus.

Y Goron yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, a dylai’r dyluniad a’r gwneuthuriad fod o’r safon uchaf. Mae’n symbol a ddefnyddir mewn seremoni gyhoeddus a gynhelir ar y llwyfan mawr ger bron miloedd o bobl ar ddydd Llun yr Eisteddfod, ac felly bydd angen i’r dyluniad terfynol a gyflwynir cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith.

Meini prawf dylunio

Dathlu tirwedd, diwylliant a hanes yr ardal gan ystyried hefyd yr elfen amgylcheddol wrth greu o’r newydd.  

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn nodi bod RHAID cynnwys y canlynol yn y dyluniad:

• /|\ Y Nod Cyfrin. Dylid ei osod mewn lle amlwg ac urddasol

• Enw swyddogol yr Eisteddfod sef: 

Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026

Noder: Ni chaniateir unrhyw eiriau eraill ar y Goron

• Dylai’r Goron gael ei chwblhau erbyn Ebrill 1 2026

/|\ Y Nod Cyfrin

Mae’r Nod Cyfrin /|\ neu Nod y Pelydr Golau yn symbol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli Cariad, Cyfiawnder a’r Gwir. Fodd bynnag, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddim defnydd o’r symbol, ac ni ddaeth yn fwyfwy poblogaidd tan ar ôl ei farwolaeth. Fe’i gwelwyd yn gyntaf ar y Sgrôl Gyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833: erbyn 1850, gellid ei weld ar faneri’r gorseddau ac o tua 1860 ar dystysgrifau aelodau newydd. Erbyn diwedd y ganrif fe’i hystyrid yn symbol cymeradwy Gorsedd y Beirdd, ac ymddangosodd ar ei rhaglenni, ar y faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar Gerrig yr Orsedd. Erbyn y 1950au, penderfynwyd bod yn rhaid cynnwys y symbol ar bob un o Gadeiriau a Choronau’r Eisteddfod. (www.eisteddfod.cymru).

Nodiadau i grefftwyr

Bu’r cyn-archdderwydd Elerydd, Y Parch WJ a Mrs Jane Gruffydd yn gweinidogaethu gydag enwad y Bedyddwyr ym mro’r Eisteddfod am dros chwarter canrif. Dyw hi ddim yn syndod iddyn nhw aros cyhyd oherwydd mi fyddai WJ yn sôn yn aml fel yr oedd pobl a thirwedd bro’r Preseli yn debyg iawn i bobl a thirwedd bro enedigol y ddau yn ardal Ffair Rhos a Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion. 

Mae’r ddihareb, ‘aur o dan yr eithin, arian dan y rhedyn, newyn dan y grug’ yn hynod o berthnasol oherwydd gwaddol y tir a’i phobl oedd ysbrydoliaeth pryddestau Elerydd, ac a ddaeth iddo Goronau eisteddfodol Pwllheli (1955) a Chaerdydd (1960). 

At hynny, mae’r afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi uwchlaw Ffair Rhos ac yn gwlychu ei thraed yn y môr ger Aberteifi nid nepell o fro a maes yr Eisteddfod. Eto mae ‘carreg las’ y Preselau mor wydn a digyfaddawd a mwyngloddiau plwm bro ei febyd. 

Bardd, nofelydd a llenor, ond er ei orchestion eisteddfodol, mae’n siŵr y caiff ei gofio fel ‘tad’ y ddau gymeriad hoffus Tomos a Marged a anfarwolwyd ar dudalennau papurau lleol, y Cardigan & Tivy-side Advertiser a’r Cambrian News

Camau cyllidebol a phrosiect

  • Cam 1 – Gweledigaeth a chynllun ddrafft a chymeradwyaeth gan y teulu a Bwrdd yr Orsedd – Taliad o 33%; 
  • Cam 2 – Taliad o 33% ddiwedd Rhagfyr 2025
  • Cam 3 - Cwblhau’r Goron: taliad olaf ar ôl ei chyflwyno’n orffenedig a’i chymeradwyo gan yr Eisteddfod ynghyd â lluniau swyddogol, 1 Ebrill 2026

Amserlen

  • Rhaid cyflwyno’r cais cyn 17:00, dydd Llun 12 Mai 2025;
  • Cynhelir cyfweliadau’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn ystod w/c 26 Mai 2025;
  • Bydd angen i’r weledigaeth gychwynnol a chynllun ddrafft fod yn barod erbyn y cyfweliad 
  • Cysylltir â’r ymgeisydd llwyddiannus yn fuan wedi’r cyfweliad; 
  • Fel rhan o’r broses, cyflwynir y cynllun gerbron y teulu a Bwrdd yr Orsedd er mwyn ei gymeradwyo’n swyddogol;
  • Bydd angen i’r Goron gael ei chwblhau’n llawn erbyn 1 Ebrill 2026

Sylwer y bydd gofyn i’r gwneuthurwr gadw cofnod digidol o’r gwaith creu, er mwyn gallu hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth gydol y cyfnod llunio. Yr Eisteddfod yn ganolog, ac nid y gwneuthurwr, fydd yn cysylltu efo’r cyfryngau. 

  • Y dyddiad i’w chyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a’r lansiad i’r wasg yw canol Mehefin 2026 (bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol);
  • Dyddiad y Coroni yw dydd Llun 3 Awst 2026;
  • Gofynnir i’r gwneuthurwr ddarparu lluniau amrywiol safonol i’r Eisteddfod unwaith i’r Goron gael ei chwblhau ar gyfer y Rhagle swyddogol a hyrwyddo cyffredinol.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich cais at Wyn Gruffydd wyngru@yahoo.co.ukerbyn 17:00, dydd Llun 12 Mai 2025

Dylai gynnwys y canlynol:

  1. Enw llawn a manylion cyswllt
  2. Bywgraffiad, gan gynnwys enghreifftiau graffigol (e.e. brasluniau, ffotograffau) o waith blaenorol
  3. Cynnig gweledigaeth/cysyniad mewn llai na 500 gair, a chynlluniau/dyluniadau drafft. Rhaid cynnwys delweddau yn y rownd gyntaf gan egluro’r cynllun, y defnydd o’r deunyddiau (y meddylfryd amgylcheddol), ysbrydoliaeth ac yn y blaen.
  4. Trosolwg o’r gwariant arfaethedig ar ffurf cyllideb ddrafft (£3k).
  5. Manylion cyswllt dau gleient blaenorol a allai ddarparu geirda.

Caiff ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i wneud cyflwyniad hyd at 30 munud o hyd ar Zoom a chymryd rhan mewn trafodaeth fer gyda phanel fydd yn cynnwys aelod o’r teulu, rhanddeiliaid lleol ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig a/neu Reolwr Cystadlaethau yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod w/c 26 Mai 2025 (yr union ddyddiad ac amser i’w gytuno gyda’r ymgeisydd ar ôl y dyddiad cau).

I wneud ymholiadau pellach, cysylltwch â wyngru@yahoo.co.uk neu steffan@eisteddfod.cymru