16 Ebr 2025

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r ail don o artistiaid a fydd yn perfformio ar lwyfannau amrywiol yr ŵyl, gyda nifer o enwau ifanc yn ymddangos, yn ogystal â llu o ffefrynnau cenedlaethol

Gyda’r rhaglen i’w chyhoeddi ym mis Mehefin, mae’r trefnwyr wedi enwi rhagor o’r artistiaid heddiw fel tamaid i aros pryd ar gyfer yr ŵyl a gynhelir ar gyrion Wrecsam o 2-9 Awst eleni.

Bydd rhai o brif artistiaid Cymru fel Candelas, Dafydd Iwan, Elin Fflur ac Yws Gwynedd yn ymddangos ar Lwyfan y Maes eleni, gyda chriw o artistiaid ifanc fel Buddug, Dadleoli, Taran a Tew Tew Tennau hefyd i’w gweld ar brif lwyfan awyr-agored Cymru yn ystod yr ŵyl. Bydd artistiaid lleol, gan gynnwys Daniel Lloyd a Mr Pinc a Talulah hefyd yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn ystod yr wythnos.

Cowbois Rhos Botwnnog a Pedair fydd dau o’r enwau mawr i’w gweld ar lwyfan y Tŷ Gwerin yn ystod yr ŵyl, gydag enwau llai cyfarwydd i gynulleidfa genedlaethol yr Eisteddfod fel Cadi Glwys, Elin a Carys, Megan Lee a Peiriant hefyd yn perfformio yn yr yurt yn Wrecsam.

Fel arfer bydd digonedd o theatr stryd a dawns o amgylch y Maes drwy gydol yr wythnos, ac ymysg yr enwau a fydd yn perfformio eleni mae Osian Meilir gyda’i sioe newydd, Mari Ha!, Krystle Lowe a Ballet Cymru gyda Merched y Môr, Paallam Arts a chwmni Hijinx gyda Robots. 

Bydd ffefrynnau mawr yr ŵyl, Cabarela, hefyd yn dychwelyd eleni gyda sioe newydd sbon, Merched y Waw! Y flwyddyn yw 2026, ac mae Strumpan wedi llwyddo i ormesu holl ferched Cymru a’u caethiwo, gan eu gorfodi i argraffu posteri propaganda’r unben i’w gwasgaru dros Gymru.  Does dim hawliau, dim gobaith a dim pleser – tan i Cabarela danio chwyldro gyda help ‘huns’ y gorffennol...  Bydd y sioe i’w gweld yn y Cwt Cabaret yn y Babell Lên o nos Lun i nos Iau o dan faner Mas ar y Maes.

Mae Encore wedi ennill ei blwyf dros y blynyddoedd diwethaf fel lleoliad arbennig ar gyfer sgyrsiau a pherfformiadau agos atoch sy’n ymwneud â’r byd cerddorol.  Cawn gyfle i gofio Arwel Hughes, y cyfansoddwr a’r cerddor enwog o Rhos, sesiwn wych am ganeuon pêl-droed y Cymry, Cyrn, sombïaid a Diego Maradona, dan ofal Mei Emrys a’r cerddor, Owain Roberts, a bydd Brwydr y cyfeilyddion yn dychwelyd am flwyddyn arall mewn rhaglen ddifyr a diddorol sy’n sicr o apelio at gynulleidfa eang.

Y Babell Lên yw cartref llenyddiaeth ar Faes yr Eisteddfod, a hynny ers degawdau lawer, ac unwaith eto eleni lawn sy’n cyfuno’r llenyddiaeth draddodiadol a modern yn llenwi’r babell streipiog melyn a glas yn ystod yr wythnos yn Wrecsam. Mae rhai o gymeriadau mawr y sin yn cymryd rhan mewn pob math o sgyrsiau a sesiynau trafod, gan gynnwys Geraint Løvgreen, Gwynfor Dafydd. Manon Steffan Ros, Marged Tudur, Melanie Owen a Mererid Hopwood. Ac fe fydd Ymryson y Beirdd yn ôl unwaith eto eleni, gyda Twm Morys a Gruffudd Antur wrth y llyw.

Bwriad Maes D yw rhoi blas o’r Eisteddfod i’r rheini sy’n newydd i’n hiaith ac yn dysgu Cymraeg, gyda chymysgedd eclectig o sesiynau sy’n rhoi blas o bob elfen o’r ŵyl i ymwelwyr newydd.  Yn ogystal ag enwau adnabyddus fel Dafydd Iwan, Gwenan Gibbard a Pedair, bydd sesiwn yn sôn am Glwb Pêl-droed Wrecsam a’r Gymraeg a bydd y Doctor Cymraeg yn agor drws ei syrjeri yn ystod yr wythnos. Felly, os oes gennych chi boen yn eich treigladau neu os ydych chi’n dioddef o or-bryder ynglŷn â’r gorberffaith - dewch i alw mewn i weld y doctor!

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Mae’r amrywiaeth o artistiaid sy’n cael eu cyhoeddi heddiw fel rhan o’r ail don yn arbennig, gyda rhywbeth sy’n sicr o apelio at bawb ymysg y rhestr.  Mae ton arall o gyhoeddiadau i ddod yn fuan, cyn i ni gyhoeddi’r rhaglen gyflawn ganol Mehefin.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn croesawu nifer o artistiaid ifanc a newydd i’r Maes yn Wrecsam eleni, ac rwy’n sicr bod rhai o sêr y dyfodol yn mynd i fod yn perfformio ar ein llwyfannau ni eleni.  Mae cynnig cyfleoedd i artistiaid newydd yn rhan bwysig o genadwri’r Eisteddfod er mwyn cryfhau pob elfen o’r celfyddydau yng Nghymru a chefnogi creu sin bywiog ac amrywiol ym mhob maes.

“Gydag ychydig dros 100 diwrnod i fynd, mae’r paratoadau’n mynd yn dda, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb atom i Wrecsam am wythnos i’w chofio ym mis Awst eleni.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar gyrion dinas Wrecsam o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i www.eisteddfod.cymru.