Daeth dros fil o drigolion lleol ac aelodau Gorsedd Cymru ynghyd yn Arberth dros y penwythnos i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal ymhen y flwyddyn
Hon oedd yr orymdaith fwyaf i’w chynnal i groesawu’r Eisteddfod i ardal ers blynyddoedd lawer.
Bwriad yr orymdaith yw croesawu’r ardal i’r Eisteddfod a’r Eisteddfod i’r ardal, ac ar ei diwedd, cynhelir seremoni liwgar yng Nghylch yr Orsedd.
Yn ystod y seremoni hon, cyflwynir y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, ac eleni, cyfle John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las oedd gwneud hyn, ac meddai, “Roedd hi’n fraint cyflwyno’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, gan mai dyma ffrwyth llafur trigolion ardal y Garreg Las dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau, cerddi a chaneuon, ac mae’r braf iawn cael rhannu popeth gyda Chymru gyfan.
“Braint hefyd oedd gorymdeithio drwy’r dref gyda chynifer o grwpiau cymunedol a chynrychiolaeth ddinesig, gyda phawb wedi dod ynghyd i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal. Roedd ‘na awyrgylch hyfryd ar y daith, ac rydyn ni am i’r teimlad o ddathlu a chroeso barhau drwy gydol y flwyddyn nesaf ac yn ystod wythnos yr ŵyl ei hun.”
Yn ogystal â chyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau, roedd y seremoni hefyd yn gyfle i’r Archdderwydd, Mererid, annerch y gynulleidfa o’r Maen Llog, ac roedd ganddi hi neges gref – heddwch.
Dywedodd, “Ymbiliodd un o ddisgyblion disgleiriaf ysgol ramadeg y dref hon am heddwch hyd ei oes – Waldo Williams - y bardd a fentrodd ofyn y cwestiynau mawr i gyd: ‘Beth yw byw?’ ‘Beth yw maddau?’ ‘O ba le’r ymroliai’r môr goleuni oedd a’i waelod ar Weun Parc y Blawd a Pharc y Blawd?’ ‘Pa werth na thry yn wawd pan laddo dyn ei frawd?’
“… Gyfeillion! Nid oes angen imi eich atgoffa chi bod tir a môr ac awyr Cymru’n cael eu defnyddio hyd heddiw i ymarfer rhyfela, a bod yr hen fygythiadau yn dod yn gyson newydd i hawlio mwy o’n gwlad. Dim ond gofyn cwestiwn a wnaf i o’r maen llog y bore hwn: pa werth na thry yn wawd, yn gywilydd pan laddom ni ein gilydd?
Gyda’r Rhestr Testunau wedi’i gyflwyno i’r Archdderwydd, mae copïau ar gael i’w prynu mewn siopau ar hyd a lled Cymru erbyn hyn a bydd porth cystadlu Eisteddfod 2026 yn agor ym mis Ionawr.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las o 1-8 Awst y flwyddyn nesaf. Mae’r dalgylch yn cynnwys Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr.
Cynhelir yr Eisteddfod eleni yn Wrecsam o 2-9 Awst. Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.





