22 Mai 2025

Caneuon Ail Symudiad, un o fandiau pwysicaf y sîn roc Gymraeg, fydd thema cyngerdd côr Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn 2026

Roedd Richard ac Wyn Jones yn ffigurau arloesol a charismatig, gyda’u cyfraniad i’r Gymraeg drwy’u cerddoriaeth yn dal i ysbrydoli cenedlaethau newydd o artistiaid a chefnogwyr. Bydd y sioe ar lwyfan y Pafiliwn yn gyfle i ddathlu etifeddiaeth gerddorol Ail Symudiad drwy berfformiad torfol pwerus sy’n dathlu hanes, cymuned ac angerdd cerddorol lleol.

Meddai cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Davies, “Mae’n gwbl briodol ein bod ni’n dathlu etifeddiaeth Rich ac Wyn yn Eisteddfod y Garreg Las y flwyddyn nesaf.  Roedd yr ardal hon mor bwysig i’r ddau ohonyn nhw, ac rwy’n credu fod creu sioe i gôr cymunedol o ddau gant o leisiau yn ffordd berffaith i dalu teyrnged i ddoniau’r ddau a wnaeth gymaint dros ein diwylliant. 

“Mae hwn yn syniad sydd wedi dod gan y gymuned, ac mae’n bleser gennym ni fel pwyllgor gwaith ei gefnogi, a rhoi llwyfan i brosiect a fydd yn sicr o apelio at gynulleidfa leol a chenedlaethol.”

Mae nifer o gyfleoedd cyflogedig ar gael fel rhan o’r prosiect, gyda’r ffi i’w chytuno yn ôl profiad a chwmpas y gwaith:

Cyfarwyddwr cerdd: yn gyfrifol am holl drefniannau cerddorol y côr a’r band. Gall fod yn un rôl neu gellir ei rhannu rhwng dau berson – un ar gyfer y trefniannau lleisiol ac un arall ar gyfer y band a’r sioe. Bydd angen cydweithio gyda’r sgriptiwr / dramodydd a chyfarwyddwr y sioe i ddewis y caneuon

Sgriptiwr / dramodydd: yn gyfrifol am greu llinell stori a llunio’r sgript. Bydd y caneuon yn ganolog i'r sioe hon, a bydd angen naratif / stori dda i blethu’r caneuon yn naturiol at ei gilydd

Cyfarwyddwr llwyfan: yn gyfrifol am y weledigaeth yn gyffredinol, y llwyfannu a’r cydweithio technegol (sain / goleuo). Bydd angen profiad o weithio gyda chast proffesiynol ac amatur ynghyd â thechnegwyr proffesiynol, a bydd disgwyl i’r person yma gydweithio agos gyda’r Cyfarwyddwr cerdd, y sgriptiwr / dramodydd a’r tîm technegol

Arweinydd/ion y côr: cyfle i arweinydd lleol greu tîm gyda chyfeilydd/ion lleol i arwain y côr. Bydd yr arweinydd/ion yn gyfrifol am ymarferion wythnosol lleol, ac yn cydweithio’n agos gyda’r tîm artistig i baratoi’r côr ar gyfer y sioe

Amserlen:

Dyddiad cau: 16 Mehefin
Cyfweliadau (dros Zoom): gyda’r nos, 25 a 26 Mehefin
Dewis y caneuon a sgriptio: Mehefin – Medi
Cyhoeddi manylion y prosiect: Hydref
Lansio’r côr / cychwyn ymarfer: Ionawr / Chwefror 2026
Perfformio ar lwyfan y Pafiliwn: Awst

Anfonwch CV a datganiad o ddiddordeb at rhys@eisteddfod.cymru, erbyn 17:00, dydd Llun 16 Mehefin. Dylai’ch datganiad gynnwys gwybodaeth am:

  • eich profiad perthnasol
  • pam fod y prosiect yn eich ysbrydoli
  • beth mae cerddoriaeth Ail Symudiad yn ei olygu i chi

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd, gogledd Sir Benfro o 1-8 Awst 2026.  Mae’r dalgylch yn cynnwys Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr. Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch i www.eisteddfod.cymru.