Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai Maxine Hughes, Washington DC, Unol Daleithiau America fydd Arweinydd Cymru a’r Byd ym Mhrifwyl Wrecsam eleni
Yn wreiddiol o Gonwy, mynychodd Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn cyn gadael Cymru i astudio yn Ffrainc ac yna'r Unol Daleithiau. Cystadlodd mewn jiwdo ac acrobateg dros Gymru, ond ysgoloriaeth bêl-droed prifysgol aeth â hi i America. Syrthiodd mewn cariad gyda’r wlad a threuliodd nifer o flynyddoedd yno cyn dychwelyd i’r DU i weithio i’r BBC.
Mae’n newyddiadurwr, gohebydd a chyflwynydd profiadol. Mae ei gwaith wedi cynnwys rhai o straeon newyddion mwyaf y byd dros y blynyddoedd diwethaf, o’r daeargryn a’r tswnami yn Japan i’r rhyfel yn Syria, ac wrth gwrs etholiadau America.
Mae llawer o'i gwaith wedi canolbwyntio ar wleidyddiaeth ac eithafiaeth. Mae hi wedi ymdreiddio gyda grwpiau eithafol, wedi cyfweld â phobl proffil uchel, gan gynnwys Arlywydd yr UD, Donald Trump.
Ond ei hoff waith hyd yn hyn oedd gyda’r actorion o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn ‘Welcome to Wrexham’ a enillodd Wobrau Emmy.
Mae’n angerddol am yr iaith Gymraeg, yn credu mewn torri penawdau yn y Gymraeg, cystadlu ar lwyfan byd-eang drwy’r Gymraeg, ac mewn gwneud y Gymraeg yn hygyrch i bawb.
Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod a gynhelir nos Sul 3 Awst yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod. . Bydd hi hefyd yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru fore Gwener, 8 Awst.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.