Baeri lliwgar yn erbyn awyr gymylog

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg ac fe'i cynhelir yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn.

Mae'r ŵyl yn teithio o le i le gan ymweld â gogledd a de Cymru bob yn ail, gan ddenu hyd at 170,000 o ymwelwyr a thros 200 o stondinau.

Mae'r ŵyl wedi datblygu'n helaeth dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi tyfu i fod yn ŵyl fywiog sy'n cwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, gyda'r elfen gystadleuol yn greiddiol i bopeth.

Gwelwyd cynnydd hefyd mewn gwaith all-ymestyn cymunedol, gyda'r prosiect dros y ddwy flynedd hyd at yr Eisteddfod ei hun yn cael ei drawsnewid yn ystod y cyfnod diweddar.

Strwythur yr Eisteddfod

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi’i chofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda’r Comisiwn Elusennau (rhif: 1155539).  Mae'r system reoli barhaol yn cynnwys y Bwrdd Rheoli (Ymddiriedolwyr), y Llys, y Cyngor a'r Orsedd.

Y Cyngor

Mae Cyngor yr Eisteddfod yn gweithredu fel bwrdd goruchwylio a chorff ymgynghorol, ac mae'i gyfrifoldebau yn cynnwys edrych i’r dyfodol a chymryd golwg strategol ar waith a datblygiad yr Eisteddfod, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Mae’r Cyngor yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn ar ddydd Sadwrn ym mis Tachwedd, Ebrill a Mehefin | Gorffennaf.  Cynhelir cyfarfodydd yr hydref a'r gwanwyn yn ddigidol - a chyfarfod yr haf yn ystod Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod y flwyddyn ganlynol. 

Ymuno â'r Cyngor

Etholir hyd at 6 aelod i’r Cyngor yn flynyddol gan aelodau Llys yr Eisteddfod. Bydd yr unigolion a etholir yn cyfrannu tuag at ddatblygiad strategol yr Eisteddfod, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, a sicrhau bod llais a dyheadau aelodau’r Llys yn cael eu hystyried yn llawn gan Ymddiriedolwyr a Thîm Gweithredol yr Eisteddfod.

Gwahoddir enwebiadau gan unigolion sydd â sgiliau a phrofiad perthnasol mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys profiad ariannol, archwilio, busnes, codi arian, cyfreithiol, diwylliannol, marchnata, rheolaeth, rheoli digwyddiadau, technegol ac ymgysylltiad cymunedol a chymdeithasol, ynghyd ag unigolion sy'n teimlo'n angerddol dros waith yr Eisteddfod.

Os credwch mai chi yw'r person hwnnw, a'ch bod yn rhannu ein gwerthoedd, ein delfrydau a'n dyheadau, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Byddwn yn hyrwyddo unrhyw gyfleoedd i ymuno â'r Cyngor ar y dudalen hon.

Rhagor o wybodaeth

Cliciwch ar y dogfennau ar waelod y dudalen am wybodaeth am Bwyllgor Diwylliannol, Bwrdd, Cyngor a staff yr Eisteddfod, ynghyd â strwythur llywodraethiant y corff. 

Ein cyfeiriad yw Swyddfa'r Eisteddfod, 40 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU a'n rhif ffôn yw 0345 4090 900. Nodwch fod hwn yn rif pris galwad lleol.  Ein cyfeiriad ebost cyffredinol yw gwyb@eisteddfod.cymru.

 

Aelodau'r Bwrdd Rheoli, Mai 2024 Lawrlwytho
Aelodau'r Cyngor, Ebrill 2023 Lawrlwytho
Aelodau'r Pwyllgor Diwylliannol, Gorffennaf 2023 Lawrlwytho
Strwythur Staffio'r Eisteddfod, Mai 2024 Lawrlwytho
Strwythur Llywodraethiant yr Eisteddfod, Ebrill 2023 Lawrlwytho
Cyfansoddiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lawrlwytho
Rheolau Sefydlog, Awst 2022 Lawrlwytho