Heddiw (19 Mehefin), cyhoeddwyd pwy yw’r pedwar sy’n cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni

Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Y rheini a ddaeth i’r brig eleni oedd Rachel Bedwin sy’n byw yn ardal Bangor, Lucy Cowley sy’n byw yn Llangollen, Hammad Hassan Rind sy’n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy’n byw ym Mhrestatyn.
Beirniaid y gystadleuaeth yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes, a chynhelir y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher 6 Awst eleni.
Meddai’r beirniaid, “Roedd yn bleser pur cwrdd â’r siaradwyr newydd oedd wedi ymgeisio am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2025. Roedd pob un ohonyn nhw’n dweud bod dysgu’r Gymraeg wedi ysgogi newid yn eu bywydau ac wedi agor y drws ar gyfoeth o brofiadau gwerthfawr, a llu o ffrindiau newydd. Roedd eu hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.
“Daeth pedwar i’r brig o blith yr ymgeiswyr disglair. Roedd gwrando ar eu profiadau o ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn ysbrydoliaeth, a 'dyn ni’n eu llongyfarch nhw, a’r holl ymgeiswyr.”
A phwy felly yw’r pedwar? Dyma ychydig o’u hanes a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.
O Lundain y daw Rachel Bedwin yn wreiddiol, a dywed nad oedd ganddi gysylltiad â Chymru, ac y byddai’i bywyd wedi bod yn wahanol iawn petai heb ddysgu Cymraeg. Yn byw yn ardal Bangor erbyn hyn, symudodd i Gymru i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Erbyn hyn, mae’n gweithio yn adran Polisi ac Eiriolaeth RSPB Cymru, ac yn defnyddio cymaint o Gymraeg â phosibl yn y gwaith. Un o’i huchelgeisiau yw cael trafod polisi natur gydag Aelodau’r Senedd yn y Gymraeg. Mae’n aelod o gôr Cymraeg lleol ac yn mwynhau helpu aelodau eraill gyda’u Cymraeg gan ei bod yn credu fod dysgu’r iaith yn gallu newid bywydau pobl.
Daw Lucy Cowley o Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni. Roedd ei thaid yn ffoadur o Wlad Pwyl a’i nain yn ffoadur o’r Wcrain. Er ei bod hi wedi cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, ‘doedd hi ddim yn hyderus, ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt, sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu’r Gymraeg gyda’r plant. Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau, a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth. Mae hi’n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref, sy’n denu criw o bobl o gefndiroedd amrywiol, rhai yn ddysgwyr newydd ac eraill yno i ail afael yn eu Cymraeg. Mae’n cynllunio gemwaith a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Mae Hammad Hassan Rind a’i wraig, Charlotte yn dysgu Cymraeg ers ychydig dros flwyddyn a hanner, ac mae’n hynod o frwd dros y Gymraeg ac yn helpu eraill sydd yn y dosbarth. Mae hefyd yn dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a ffoaduriaid gyda ‘Made in Roath’, gan ddefnyddio’r ieithoedd eraill mae’n eu siarad i gyfathrebu wrth ddysgu. Mae’n aelod o grŵp o wirfoddolwyr sy’n cydweithio i ddod â mwy o weithgareddau Cymraeg i Grangetown. Dros y misoedd diwethaf mae Hammad wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth, erthyglau a straeon yn y Gymraeg, ynghyd â chyfieithu cerddi o’r Arabeg i’r Gymraeg. Eleni, bydd yn cychwyn cwrs PhD ar lenyddiaeth Gymraeg, wedi’i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd.
Dychwelodd Leanne Parry i ogledd Cymru i ail-gydio yn y Gymraeg a magu’i mab yn ddwyieithog, ar ôl astudio’r iaith hyd at safon TGAU ail iaith yn yr ysgol. Mae’n gweithio fel ffisiotherapydd niwrolegol yn Ysbytai Glan Clwyd a Bae Colwyn ac yn gweithio gyda phobl â chyflyrau fel MS a Parkinson’s. Bu cynllun iechyd a gofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn allweddol i’w thaith iaith; manteisiodd yn fawr ar arlwy’r bwrdd iechyd lleol i ddysgu Cymraeg, ac yn 2024, enillodd deitl ‘Dysgwr y Flwyddyn Betsi Cadwaladr’ ar lefel canolradd. Yn wreiddiol o’r Rhyl, mae Leanne yn byw ym Mhrestatyn, lle mae’n cyfarfod â dysgwyr eraill yn rheolaidd i ymarfer eu Cymraeg.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst am 13:30, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Spencer a Jeni Harris, a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac am fwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cliciwch ar www.dysgucymraeg.cymru.