Pleser yw cyhoeddi bod Sain a Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn partneru i ryddhau albym gwerin amlgyfrannog arbennig a fydd allan yn ddigidol ac ar CD ar Orffennaf 25ain ac ar feinyl ym Medi 2025

Fel yr ail yn y gyfres 'Stafell Sbâr Sain', prosiect cydweithredol newydd a lansiwyd gan Sain y llynedd, mae'r albym 12 trac wedi ei guradu gan Tŷ Gwerin ac yn cynnwys 12 artist sy'n rhan o'r sîn werin gyffrous sydd yn ffynnu yng Nghymru heddiw. Mae Sain yn hynod o falch o gael cydweithio gyda Tŷ Gwerin, un o'r llwyfannau amlycaf o ran hybu a chefnogi cerddoriaeth ac artistiaid gwerin yng Nghymru dros y ddegawd a mwy ddiwethaf. Mae'r albym yn ddathliad o lwyddiant Tŷ Gwerin ac yn nodi ymrwymiad Sain i barhau i fuddsoddi mewn cynnal ein diwylliant a'n treftadaeth werinol.
Meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod: “Mae’n fraint gan yr Eisteddfod a Tŷ Gwerin gydweithio gyda Sain ar brosiect sy’n rhoi llwyfan mor bwerus i amrywiaeth a bywiogrwydd y sîn werin gyfoes yng Nghymru. Mae’r albym yma yn adlewyrchu popeth y mae Tŷ Gwerin yn sefyll drosto – dathlu traddodiad, cefnogi artistiaid cyfoes, a rhoi llwyfan i leisiau amrywiol o bob cwr o Gymru. Mae’n bleser cydweithio gyda Sain ar brosiect sy’n dangos mor fyw a pherthnasol yw cerddoriaeth werin heddiw.”
Gyda'r mwyafrif o'r traciau wedi eu recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog a'u cynhyrchu gan Aled Wyn Hughes, mae'r albym yn gydbwysedd perffaith o artistiaid sydd wedi hen wneud eu marc yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac artistiaid newydd, cyffrous, sy'n prysur ddod i'r amlwg, a'r gerddoriaeth yn dwyn ynghyd fersiynau newydd o ganeuon ac alawon traddodiadol a deunydd gwreiddiol.
Mae'r bytholwyrdd Bob Delyn a'r Ebillion yn dychwelyd i recordio am y tro cyntaf ers wyth mlynedd a'u trac newydd o hen benillion, 'Y Gwynt', a'u sŵn nodweddiadol, sy'n atgof pendant o rialtwch 'Ffair y Bala', yn agoriad mwy na theilwng i'r albym. Amrywiad cwbl ysbrydoledig, blŵgras Cymreig, o'r hen gân 'Moliannwn' a gawn gan y band o Gaerdydd, Taff Rapids, tra bod lleisiau a harmoni hudolus Pedair yn cydblethu mewn trac cerdd dant arbennig yn y gân 'Blodau'r Cwm'. Yn gyferbyniad llwyr mae'r ddeuawd ffidil a gitâr drydan Peiriant, gyda'u arbrofi alawol atmosfferig, yn cadarnhau bod gwerin yn ymbarel eang iawn o is-genres, a'r cyfan yn cyd-eistedd yn gytûn ac yn naturiol gyda'i gilydd.
Cawn drefniant offerynnol trawiadol o un o'r hen emynau Cymreig, 'Llef', gan y gitarydd medrus Gwenifer Raymond, a chyfansoddiad newydd, 'Mwyar Duon', gan y gitarydd a'r canwr â'r llais mwynaidd, The Gentle Good. Dwy gân serch ddidwyll a gawn gan y cantorion amlwg Gwilym Bowen Rhys a Georgia Ruth tra bod Lleuwen yn rhoi i ni gyfansoddiad newydd, pwerus, 'Haleliwia Newydd', (cynhyrchwyd gan Rhys Edwards), wedi ei ysbrydoli gan ei phrofiadau ym maes emynau llafar gwlad Cymru.
Un o artistiaid mwyaf newydd y sîn werin yw'r ddeuawd o Faldwyn, y ddwy chwaer, Elin a Carys, a chlywn eu trefniant newydd, apelgar nhw o 'Y Gwylliaid', un o draciau y grŵp arloesol Plethyn, y grwp y bu eu tad, Jac Gittins, yn aelod allweddol ohono. Daw Irfan Rais, sy'n byw yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach, o Singapore ac mae ei olwg ar gerddoriaeth werin Cymru, yn naturiol, yn dra wahanol, a'i fersiwn o'r hen gân 'Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf' yn rhoi gwedd newydd yn sicr ar hen ffefryn. Mae'r berthynas rhwng dau frawd Lo-Fi Jones, Liam a Sion Rickard, yn heintus, a'u cyfansoddiad gwreiddiol, 'Onnen', yn tynnu ar fywiogrwydd ac afiaith llawer o'r hen ganeuon a'r alawon dawnsio.
Mae 'Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin' yn reswm i ymfalchïo yn y sîn werin Gymreig ac i ddiolch i gynheiliaid y traddodiad gwerin yng Nghymru, ddoe a heddiw, y rhai a ysbrydolodd artistiaid gwerin cyfoes i rannu cyfoeth ein diwylliant a'r rhai sy'n parhau i gynnal a chreu traddodiad o'r newydd.
Bydd sesiwn arbennig i ddathlu rhyddhau'r albym yn Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, nos Iau, Awst 7fed, gyda pherfformiadau gan The Gentle Good, Irfan Rais ac Elin a Carys.
Gwaith celf yr albym: Sioned Medi Evans
Cefnogir y prosiect hwn yn rhannol gan Cymru Greadigol